Diogelu yn y Cymoedd

Mae’n bwysig bod pob dysgwr sy’n astudio yng Ngholeg y Cymoedd yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth a niwed.

Mae Coleg y Cymoedd wedi ymrwymo i gadw dysgwyr yn ddiogel ac mae ganddynt bolisïau yn eu lle i sicrhau hyn. Mae gan bob campws Gydlynydd Diogelu dynodedig sy’n rhan o’r tîm Lles a Diogelu. Bydd y Cydlynydd Diogelu yn ymateb i bryderon diogelu ac yn cydymffurfio â Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan a Chadw Dysgwyr yn Ddiogel.

Os yw Dysgwr mewn perygl o niwed sylweddol, neu os adroddir am gamdriniaeth anghyfreithlon, ymchwilir i’r rhain yn unol â’r Polisi Diogelu, Cadw Dysgwyr yn Ddiogel a Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan.

Os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hun neu rywun rydych chi’n ei adnabod, rhowch wybod i’ch tiwtor. Fel arall, gall Dysgwyr ddefnyddio’r Tîm Llesiant a Diogelu a all gefnogi dysgwyr trwy gyfnodau anodd.

Yng Ngholeg y Cymoedd, mae yna aelodau o staff sy’n gwisgo cortynnau porffor. Mae’r aelodau hyn o staff yn cymryd yr awenau gyda materion diogelu.

Mae Coleg y Cymoedd wedi ymrwymo i ddiogelwch dysgwyr a lleihau radicaleiddio ac eithafiaeth.

Strategaeth Genedlaethol gan y Llywodraeth yw Prevent lle mae dyletswydd i frwydro yn erbyn terfysgaeth, radicaleiddio a safbwyntiau eithafol.

Os amheuir bod dysgwyr yn cymryd rhan mewn radicaleiddio neu rannu safbwyntiau eithafol, bydd y Tîm Llesiant a Diogelu yn cefnogi lle bo’n briodol.

Fel arall, gallwch gysylltu â’r Pennaeth Llesiant a Diogelu, Joel Price (Joel.Price@Cymoedd.ac.uk) a all gynorthwyo pan fydd mater diogelu’n codi.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau