Mae pob un o’n campysau yn elwa ar gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â llwybrau bws a thrên mawr o fewn pellter cerdded i bob safle
Mae pob un o’n campysau yn cynnig parcio am ddim ar y safle
Os:-
– ydych yn 18 oed ac iau ar 1af Medi cyn dechrau ar y cwrs
– ydych yn byw o leiaf 2 filltir o’r campws y dymunwch astudio
– ydych yn astudio ar gwrs llawn amser
– mai Coleg y Cymoedd ydy’r darparwr agosaf ar gyfer y cwrs o’ch dewis
Yna gallech fod yn gymwys ar gyfer cael teithio am ddim/ar ddisgownt i fynychu’r coleg ar gludiant y coleg.
Dylid gwneud cais i ddefnyddio cludiant y coleg i adran gludiant eich cyngor lleol.
Bydd gofyn i chi ddangos eich pas bws i’r gyrrwr ar bob taith; os na wnewch hyn bydd y gyrrwr yn gwrthod i chi ddod ar y bws.
Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r bws cywir sy’n berthnasol i’r arosfan sydd ar eich cerdyn ID coleg. Os na fyddwch yn cydymffurfio, efallai na allwch deithio ar gludiant y Coleg. Os na nodir arosfan ar eich cerdyn ID coleg, ewch i‘r Gwasanaethau Dysgwyr.
Os ydych:-
– yn 19 oed neu’n hŷn
– yn astudio ar gwrs llawn amser
Yna gallech fod yn gymwys ar gyfer teithio â chymhorthdal drwy wneud cais i Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) y coleg.
Gwneir cais am deithio ar fysiau coleg yn uniongyrchol i ardal y cyngor lle mae eich cyfeiriad cartref. Gweler y dolenni isod i bob adran drafnidiaeth y Cyngor.
Pan fyddwch yn gwneud cais am Deithio ar Fysiau gan ddefnyddio’r dolenni isod, cofiwch ddewis Cludiant Coleg nid Cludiant i’r Ysgol.
|
Sirol Caerffili
|
|
Rhondda Cynon Taf Campws Nantgarw
|
|
Rhondda Cynon Taf Campws Ystrad Mynach
|