Lefelau Cymhwyster a Gofynion Mynediad

Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau bydd lefel eich astudiaeth yn dibynnu ar y cymwysterau rydych wedi’u hennill eisoes, ond mae’r cyfle yno i chi weithio’ch ffordd i fyny.

Defnyddiwch y canllaw isod i ddangos yr hyn a ddisgwylir ar bob Lefel.

I gael gwybodaeth fanwl a gofynion mynediad ar unrhyw un o’n cyrsiau, edrychwch ar ein cyrsiau

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer eich dewis gwrs efallai y byddwch yn dal yn gallu astudio’r pwnc ond ar lefel wahanol.

Lefel Mynediad 2

Cynlluniwyd i roi cyfle i ddysgwyr gymryd rhan mewn dysgu sy’n berthnasol iddyn nhw, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau allweddol, ystod o sgiliau bywyd, sgiliau a rhinweddau personol, a datblygu diddordebau mewn gwahanol feysydd a allai alluogi dilyniant i astudiaeth bellach neu cyflogaeth â chymorth

Dim gofynion mynediad ffurfiol, fodd bynnag cynhelir cyfweliad anffurfiol. Yn ystod y cyfweliad, bydd asesiad cychwynnol yn cael ei gwblhau i asesu amrywiaeth o sgiliau. Bydd anghenion cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr yn cael eu trafod i sicrhau bod y cwrs yn addas ar gyfer anghenion dysgwyr

Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gweithio tuag at Fynediad 2

Lefel Mynediad 3

Bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i feithrin sgiliau, profiad a magu hyder i symud ymlaen i Lefel 1

Rhaid i chi fod yn gweithio ar Lefel Mynediad 2 mewn Llythrennedd a Rhifedd ac yn gweithio tuag at gymwysterau Mynediad 3.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad ac yn sefyll asesiad byr mewn llythrennedd a rhifedd, i bennu a oes angen unrhyw gymorth arnoch.

Lefel 1

Bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i symud ymlaen i gyrsiau Lefel 2 neu i gyflogaeth. Byddant yn eich paratoi gyda’r sgiliau mewn crefft/gyrfa benodol.

Fel arfer bydd angen 3 TGAU graddau A*- E gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Sylfaen Mynediad 3 yn llwyddiannus.

Lefel 2

Mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu ichi ddechrau arbenigo mewn maes yr hoffech ei ddilyn fel gyrfa.

Bydd angen 4 TGAU graddau A*- D gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Lefel 1 mewn pwnc galwedigaethol cysylltiedig.

Lefel 3

Mae’r rhain yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth benodol sy’n gysylltiedig â gwaith. Yn eu plith mae cymwysterau galwedigaethol (gan gynnwys Diplomâu Estynedig, Diplomâu, Tystysgrifau) a phrentisiaethau.

Mae tair gradd rhagoriaeth serennog (DDD) ar gwrs galwedigaethol Lefel 3 yn cyfateb i dair gradd A* Safon Uwch.

Fel arfer bydd angen 5 TGAU graddau A*- C gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd,  Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu gymhwyster Lefel 2 gyda’r dewis priodol o unedau.

Ar rai cyrsiau efallai y bydd angen pynciau penodol.

Ar gyfer Prentisiaeth bydd arnoch angen TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) gradd C neu’n uwch.

Lefel 4/5 (Addysg Uwch)

Mae ein cyrsiau HNC, HND a Gradd Sylfaen yn cyfateb i Lefel 4/5.

Y gofynion mynediad ar gyfer cyrsiau fel arfer yw cwblhau cyrsiau Galwedigaethol Lefel 3 priodol, neu ddau gymhwyster Safon Uwch, neu gymhwyster Mynediad i Addysg Uwch.

Rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol

Lefel 6 (Addysg Uwch)

Mae hyn yn berthnasol i’n cyrsiau Gradd Baglor (BA Anrh) a Thystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (TAR). Y gofynion mynediad ar gyfer y cyrsiau hyn fel arfer yw cwblhau HNC/HND/Gradd Sylfaen mewn pwnc cysylltiedig.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau