Fel partneriaeth, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a chynnig cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bob dysgwr a chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a’i diwylliant Cymru ymhlith dysgwyr a chyflogwyr. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cefnogol a helpu i hwyluso uwchsgilio staff a dysgwyr i deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg. I drefnu cyfarfod gyda Chynrychiolydd Dwyieithrwydd a thrafod ein darpariaeth Gymraeg/dwyieithog, siaradwch â’ch asesydd neu aelod o’r adran Dysgu Seiliedig ar Waith.
Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt. Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a’r gefnogaeth. Gallwch ddarllen rhagor am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd: Y Gymraeg – Coleg y Cymoedd
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR