Ymunwch â’n hysgol arloesol sef Diwydiannau Creadigol i ddatblygu, ehangu a mireinio’ch sgiliau ar gyfer y diwydiant ar draws llu o ddisgyblaethau creadigol gan gynnwys: Cyfryngau Creadigol, Ffilm a Theledu, Creu Gwisgoedd, Creu Propiau, Celfyddydau Cynhyrchu (Coluro yn y Cyfryngau), Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio.
Bydd staff perthnasol â phrofiad helaeth yn y diwydiant yn eich arwain ac yn meithrin eich datblygiad o ran sgiliau gofynnol, ymarferol, creadigol a pherfformio, gan roi’r hyder ichi symud ymlaen i Addysg Uwch neu yrfa mewn sector creadigol lleol sy’n ehangu.
Gyda chyfleusterau arbenigol o’r radd flaenaf ar ein campysau yn Aberdâr, y Rhondda a Nantgarw, gallwn ddarparu amgylchedd dysgu a gynlluniwyd yn arbennig i gynnig pob cyfle ichi archwilio a datblygu eich creadigrwydd gan ddefnyddio adnoddau a ystyrir “o safon diwydiant”.
Mae gan yr Ysgol â’i hethos proffesiynol, ei staff angerddol a’i chysylltiadau yn y diwydiannau perthnasol, hanes cyfoethog o gynhyrchu dysgwyr sydd wedi ennill gwobrau a chreu cyfleoedd cyflogaeth i ddysgwyr ar draws y ddarpariaeth.
Cael profiad o gyfleusterau stiwdio ar gyfer printio, dylunio 3D a graffeg, celf gain a ffasiwn, gwisgoedd a thecstilau, gyda chymorth TGCh o safon y diwydiant.
Caiff myfyrwyr y fraint o gael gweithio mewn stiwdios pwrpasol ar gyfer dawns ac ymarfer gyda theatr dechnegol o’r radd flaenaf.
Cyrsiau gyda’r nod o ddarparu technegau gweithio i chi a ddefnyddir yn y diwydiant cyfryngau, a datblygu ac ehangu eich portffolio o sgiliau mewn gwallt, colur ac effeithiau arbennig ar gyfer teledu a ffilm.
Gallwch ymarfer eich sgiliau ffilmio, cynhyrchu a golygu mewn stiwdios ac ystafelloedd golygu llawn offer cyfoes.
Cewch ddefnyddio’r stiwdios recordio a chymysgu yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer ymarfer a pherfformio’n fyw.
Cewch brofiad ymarferol o brintio traddodiadol, prosesu a thriniaethau digidol gan ddefnyddio’r offer arbenigol mewn ystafelloedd ffotograffiaeth syfrdanol.
Os mai Amlgyfryngau sy’n mynd â’ch bryd, byddwch wrth eich bodd gyda’n swît o ystafelloedd llawn o gyfrifiaduron Apple Mac wedi’u llwytho gyda meddalwedd megis Adobe Photoshop, Illustrator, Dreamweaver, Flash ynghyd â rhestr hir o feddalwedd golygu.
Byddwch yn gweithio ar gynyrchiadau cyffrous gyda Chwmni Opera Cymru, y BBC a Theatr Mappa Mundi yn cynllunio a gwneud gwisgoedd. “Cewch lawer o gyfleoedd yn y coleg ac mae gweithio yn y diwydiant yn rhan fawr o’r cwrs ac yn hwb mawr i’r hyder.
Cynigir ystod o gyrsiau o Lefel 1 i Lefel 3 yn Addysg Bellach a Lefel 4 (Gradd Sylfaen/HND) i Lefel 6 (BA Anrh) yn Addysg Uwch drwy etholfreintiau marchnad arbenigol gyda Phrifysgol De Cymru.
Mae pob cwrs Lefel 3 yn eich galluogi i ennill y pwyntiau UCAS angenrheidiol i symud ymlaen i Brifysgol o’ch dewis, gan eich caniatau i ddatblygu portffolio proffesiynol sy’n gwella eich tebygrwydd o gael cyflogaeth mewn maes o’ch dewis.