Meddwl am ymuno â’r nifer o Weithwyr Gofal sy’n gweithio gyda … phlant, pobl ifanc oedolion neu bobl hŷn?
Yng Ngholeg y Cymoedd, byddwch yn …
– astudio mewn cyfleusterau o’r safon uchaf
– cael eich hyfforddi gan staff sy’n arbenigwyr cymwys a phrofiadol
– astudio elfennau ymarferol ac academaidd cryfion
– cael profiad o gyflogaeth neu symud ymlaen i’r brifysgol.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Sector Iechyd y DU yn cyflogi tua dwy filiwn o bobl ar draws ystod o sefydliadau cyhoeddus, annibynnol a gwirfoddol. Gofal Cymdeithasol yw un o’r prif feysydd gwasanaeth cyhoeddus.
Yn ôl yr Adran Iechyd, ar unrhyw adeg, mae hyd at 1.5 miliwn o’r bobl fwyaf agored i niwed yn dibynnu ar weithwyr cymdeithasol a staff cymorth am help. Mae’r maes Gofal Cymdeithasol yn farchnad dameidiog ac ymhlith y darparwyr gofal mae awdurdodau lleol, rhannau o’r GIG, sefydliadau preifat a gwirfoddol. Felly mae nifer o ddewisiadau.
Mae ein cyrsiau’n delio â materion cyfredol a phwysicaf y dydd ac wedi’u llunio i’ch ysgogi a’ch herio o ran egwyddorion a’r dulliau gofal a ddefnyddir ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae pob cwrs yn defnyddio’r ymchwil diweddaraf a phrofiad ymarferwyr yn y maes er mwyn rhoi cipolwg gwerthfawr ichi a sgiliau a gwybodaeth o’r byd gwaith go iawn.
Astudiaethau Plentyndod
A ydych yn dda gyda phlant? A ydynt yn ymlacio yn eich cwmni? A ydych yn ei chael yn hawdd defnyddio gweithgareddau a chwarae rôl i ddal a thanio eu dychymyg?
Gall gyrfa yn y maes Gofal Plant fod yn waith ymdrechgar iawn ond mae’r boddhad yn fawr. Yng Nghymru yn unig mae dros 26,000 o bobl yn gweithio yn y sector Gofal Plant ac mae galw cynyddol am bobl gymwys i weithio yn y maes. Mae ein cyrsiau yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sgiliau ymarferol, ynghyd â’r elfen theori gyda nifer o’n cyrsiau yn cynnig profiad ymarferol ichi o weithio mewn ystod o leoliadau gofal plant.