Mae gweithio yn y diwydiant trin ceir yn un o’r gyrfaoedd mwyaf heriol y gallech ei dewis. Mae’r diwydiant yn chwilio am bobl alluog ac ymroddedig gyda gallu ac uchelgais.
Diwydiant ar gyfer gweithwyr medrus iawn wedi eu hyfforddi’n dda yw hwn.
Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n meddu ar brofiad helaeth yn y diwydiant gyda mynediad i’n gweithdai llawn offer a chewch sylfaen gadarn i weithio yn y diwydiant ceir yng Ngholeg y Cymoedd.
Mae’r coleg wedi buddsoddi mewn canolfan hyfforddi o’r radd flaenaf ar gampws Ystrad Mynach ac yn darparu gweithdai atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau modur gan gynnwys adnoddau ardderchog ar gyfer cynnal profion a gwaith diagnostig.