Cyrsiau prifysgol yng Ngholeg y Cymoedd
Mae Coleg y Cymoedd yn darparu cyrsiau Addysg Uwch gyda’n partner cydweithredol, Prifysgol De Cymru. Mae hyn yn golygu y byddwch yn graddio â chymhwyster prifysgol, ond yn astudio mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi. Os nad oes gennych y cymwysterau cywir ar gyfer Gradd Anrhydedd lawn, bydd cyfleoedd o hyd. Mae amrywiaeth o gymwysterau ar gael: Graddau Sylfaen, HNC a HND – edrychwch ar ein rhestr cyrsiau. Mae gan y Brifysgol draddodiad hir o ddarparu cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a phroffesiynol o safon uchel. Mae staff academaidd a chymorth cymwysiedig a phrofiadol yn darparu lefel uchel o gefnogaeth fugeiliol ac academaidd i ddysgwyr a chleientiaid busnes fel ei gilydd.
Pam astudio cwrs prifysgol yng Ngholeg y Cymoedd?
– Ar eich carreg drws – Gwella’ch sgiliau a’ch cymwysterau heb yr angen i symud i ffwrdd neu fynd i ddyled sylweddol.
– Cyfeillgar a chefnogol – Cynhelir cyrsiau mewn campysau lleol fel y byddwch yn teimlo’n gyfforddus yn y maes, ac mae tiwtoriaid yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth i’ch helpu i gyrraedd eich nodau.
– Carreg gamu i ddyfodol disglair – Rydym yn deall, os nad ydych wedi astudio ers tro, y gall plymio’n syth i mewn i gwrs gradd fod yn brofiad echrydus. Rydym wedi gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i ddatblygu llwybrau dilyniant clir mewn nifer o feysydd pwnc i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa yn y dyfodol.