Os mai bwyd sy’n mynd â’ch bryd ac os oes gennych y stamina i weithio mewn sector prysur iawn yna byddwch yn mwynhau her y cyrsiau Arlwyo a Lletygarwch.
Rydym wedi dynodi amgylcheddau gwaith go iawn i hyfforddi ynddynt. Mae’r bwytai enwog hyn yn cynnig profiad gwerthfawr yn eich sector galwedigaethol.
Byddwch yn elwa o brofiad uniongyrchol ein tiwtoriaid proffesiynol sydd wedi gweithio yn y diwydiant a hefyd o leoliadau profiad gwaith cyffrous fel bwytai lleol, gwestai, Gerddi Sophia a Stadiwm y Principality i enwi dim ond rhai. Mae Coleg y Cymoedd hefyd wedi sefydlu tîm coginio sy’n cystadlu’n llwyddiannus mewn cystadlaethau amrywiol ar hyd y flwyddyn academaidd.
Bydd sgiliau’r gweithle yn eich helpu i gael gyrfa yn un o‘r diwydiannau sy’n datblygu gyflymaf yn y DU. Mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw gyda llwybrau gyrfa rhagorol yn lleol ac yn fyd-eang. Mae ein dysgwyr wedi cael swyddi yng ngwesty’r Celtic Manor, Gwesty’r Hilton, Gwesty’r Marriot, Gwesty’r Vale ac yn y lluoedd arfog.