Dy Iaith Di; Dy Ffordd Di!
Croeso i dudalen Tîm y Gymraeg yng Ngholeg y Cymoedd
Beth am siarad Cymraeg? P’un a wyt ti’n dechrau o’r dechrau neu am loywi dy sgiliau, mae defnyddio’r Gymraeg yn ffordd wych o gysylltu â diwylliant a hunaniaeth Cymru. Hefyd, mae bod yn ddwyieithog yn sgil cyflogadwyedd gwerthfawr a all eich gosod ar wahân yn y farchnad swyddi, gan agor drysau i gyfleoedd gyrfa ledled Cymru.
Cwrdd â’r tîm
Rheolwr y Gymraeg
Rydw i’n rheoli Tîm y Gymraeg. Mae’r tîm yn gyfrifol am ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog; amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg a chreu cyfleoedd i ddysgwyr a staff gadw a gwella eu sgiliau Cymraeg.
E-bost: lois.roberts@cymoedd.ac.uk
Swyddog Datblygu’r Gymraeg
Fi yw swyddog cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn Coleg y Cymoedd. Fy rôl i yw i helpu hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ledled y coleg drwy gynnal gweithgareddau a digwyddiadau i fyfyrwyr a staff.
E-bost: liam.higgins@cymoedd.ac.uk
Hwylusydd y Gymraeg
Mae fy rôl yn gofyn i mi hwyluso defnydd y Gymraeg o fewn y meysydd blaenoriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Adeiladwaith.
E-bost: lois.moremon@cymoedd.ac.uk
Hwylusydd y Gymraeg
Mae fy rôl yn gofyn i mi hwyluso defnydd y Gymraeg o fewn y meysydd blaenoriaeth Busnes a’r Diwydiannau Creadigol.
Dwi’n cefnogi staff a dysgwyr i fagu hyder wrth ddefnyddio’r iaith Gymraeg a chael hwyl ar yr un pryd.
E-bost: nerys.davies@cymoedd.ac.uk
Hwylusydd y Gymraeg
Mae fy rôl yn gofyn i mi hwyluso defnydd y Gymraeg o fewn y meysydd blaenoriaeth Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus ac Adeiladwaith.
E-bost: rhys.ruggiero@cymoedd.ac.uk
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr,
myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddyn nhw.
Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a’r gefnogaeth.
Gallwch ddarllen mwy am with y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma.
Llysgenhadon a Phencampwyr y Gymraeg
Bob blwyddyn, rydyn ni’n rhoi’r cyfle i myfyriwr gael eu cyflogi fel ‘Llysgenhadon a phencampwyr y Gymraeg’.
Eu rôl yw hybu a hyrwyddo’r iaith ymhlith y dysgwyr.
Maen nhw’n helpu gyda digwyddiadau, diwrnodau agored ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’n gyfle gwych i gwrdd â phobl ac yn rhywbeth gwych i roi ar y CV neu gais prifysgol.
Defnyddio’r Gymraeg yn dy gwrs
Gyda nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydyn ni’n cynnig darpariaeth ddwyieithog yn y meysydd
Yn ogystal â hynny, mae mod astudio’r canlynol:
Dy hawl fel siaradwr Cymraeg
Mae gyda ti’r hawl i gael y canlynol yn Gymraeg. Rydyn ni’n dy annog di i ddefnyddio dy hawl.
Os oes gyda ti gwestiynau am hyn, cofia gysylltu â Thîm y Gymraeg.
Cwtsh Cymraeg
Cefnogaeth yn Gymraeg
Rydyn ni eisiau i ti ddefnyddio dy Gymraeg cymaint â phosib. Dyma restr o’r gefnogaeth sydd ar gael i dy helpu di i wneud hynny…
Gelli di hefyd ddefnyddio ein system archebu i drefnu sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein i gael cymorth 1 i 1 gyda Hwylusydd neu gelli di ofyn i ni ddod i mewn i gefnogi yn dy wersi. Byddwn hefyd ar gael yn yr Hybiau Ymgysylltu ar bob campws.
Eisiau dysgu Cymraeg?
Mae gennym lu o adnoddau i’ch helpu i ddysgu Cymraeg.
Mae cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yma drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol,
oll wedi’u creu yn arbennig ar gyfer pobl ifanc.
Gwell gen ti wersi Cymraeg wyneb yn wyneb? Galwa i mewn i’n Hyb Ymgysylltu
neu Cwtsh Cymraeg ar bob campws am gefnogaeth 1-1 a llwyth o lyfrau, cylchgronau ac adnoddau eraill.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR