Mae’r Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn cynnig cymorth ar draws Cymru ar gyfer pobl gymwys i ennill sgiliau uwch eu lefel a fydd yn galluogi’r unigolion hyn i gyrchu ystod ehangach o swyddi a/neu gyflogaeth uwch ei lefel.
Nod sylfaenol rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ydy galluogi pobl i uwchsgilio ac ail-sgilio yn y sectorau â blaenoriaeth, i wella eu gyrfa a’u darpar enillion.
Profir cymhwyster ar adeg gwneud y cais. Mae’r unigolion canlynol yn gymwys ar gyfer y rhaglen.
Rhaid i unigolion:
Hefyd, rhaid i unigolion ddiwallu o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
Ni fydd unigolion yn gymwys ar yr adeg gwneud cais os ydyn nhw’n un o’r canlynol:
Fel rhan o’ch cais am arian, gofynnir i chi ddarparu dogfennaeth adnabod(ID) ategol yn dystiolaeth o’ch cymhwyster. Bydd hyn yn cynnwys:Os yn gyflogedig: 3x slip cyflog y 3 mis diwethaf. (Bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm yn disgyn o dan y trothwy)Os yn hunan-gyflogedig, tystiolaeth o rif UTR a HEFYD tystiolaeth o incwm y 3 mis diwethaf (e.e. cyfrifon/ anfonebau banc), (bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm o dan y trothwy).Os mewn perygl o gael eu diswyddo: Llythyr gan eich cyflogwr bod eich swydd mewn perygl.Os yn staff asiantaeth: 3x slip talu y 3 mis diwethaf (os yn bosibl – os na allwch eu cynnig, trafodwch gyda’r tîm pan fyddwn yn cysylltu â chi ar ôl cyflwyno’ch cynllun hyfforddi)
Sylwer, mai dim ond 90 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’ch Cynllun Hyfforddi sydd gennych i gwblhau eich cais am arian, ar gyfer cymeradwyo’ch cais ac i gael eich ymrestru ar eich dewis gwrs. Os bydd eich cais yn hwyr, efallai na fyddwch yn gallu symud ymlaen gyda’ch cais cyfredol ac y byddwch angen cychwyn ar gais newydd am arian.
Os bydd eich ffurflen gais gychwynnol (Cynllun Hyfforddiant) yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i ofyn am eich dogfennau adnabod ategol. Ar gyfer eich dogfennau adnabod ategol, bydd angen i chi ddarparu copïau clir heb eu golygu o’r dogfennau cymeradwy a restrir isod (lleiafswm o un ddogfen fesul grŵp) i ddangos tystiolaeth o’r wybodaeth a gofnodir ar eich ffurflenni cais. Casglwch y wybodaeth hon wrth ichi gyflwyno eich cais i baratoi ar gyfer derbyn e-bost gennym ni – Os ydych yn cael trafferth cael un o’r dogfennau cymeradwy, siaradwch ag aelod o’r tîm i drafod dewisiadau amgen posibl.
Teitl y Cwrs | Darparwr Hyfforddiant |
---|---|
Dyfarniad ABBE Lefel 3 Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol | The Environment Study Centre |
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Aseswyr Ôl-ffitio | The Environment Study Centre |
Diploma ABBE Lefel 5 Cydlynu Ôl-ffitio ac Asesu Risg | The Environment Study Centre |
Tystysgrif ABBE Lefel 3 Asesiad Ynni Domestig | The Environment Study Centre |
|
Dyfarniad ABBE Lefel 3 Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol
|
|
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Aseswyr Ôl-ffitio
|
|
Diploma ABBE Lefel 5 Cydlynu Ôl-ffitio ac Asesu Risg
|
|
Tystysgrif ABBE Lefel 3 Asesiad Ynni Domestig
|
Teitl y Cwrs | Darparwr Hyfforddiant |
---|---|
Tystysgrif City & Guilds Lefel 2 mewn Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd | N-ergy |
|
Tystysgrif City & Guilds Lefel 2 mewn Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd
|
Gyda’n rhestr helaeth o’r cyrsiau sydd ar gael o dan y Cyfrif Dysgu Personol, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’ch cwrs perffaith.
Cychwynnwch ar eich cais am Gyfrif Dysgu Personol drwy gwblhau a chyflwyno Cynllun Hyfforddi ar-lein yma.
Ar ôl i ni adolygu’ch Cynllun Hyfforddi, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi drwy e-bost i ofyn am ddogfennau ychwanegol i gwblhau eich cais am gyllid.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau a dychwelyd y dogfennau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn peidio â’ch siomi. Sylwch, ni ymatebir i unrhyw gyflwyniad anghymwys.
Ar ôl i chi ddychwelyd eich dogfennau ychwanegol a bod y cyllid wedi’i gymeradwyo, fe weithiwn gyda chi i sicrhau’r dyddiad cychwyn fyddai orau i chi.
Sylwer, os cynhelir eich cwrs drwy bartner hyfforddi, nhw fydd yn cwblhau’r cam hwn gyda chi. Gellir cychwyn unrhyw cwrs dan arweiniad personol yn syth.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR