Y Corff Llywodraethol

Daw 20 aelod o Gorff Llywodraethol Coleg y Cymoedd o nifer o feysydd amrywiol, yn cynrychioli’n fras y gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Daw aelodau’r Corff Llywodraethol o fyd busnes neu fywyd cyhoeddus ac yn eu sgil ystod o sgiliau /arbenigedd sy’n bwysig i ddatblygiad a dyfodol Coleg y Cymoedd.

Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am y canlynol:-

a) Penderfynu ar natur a chenhadaeth addysgol y sefydliad ac i oruchwylio’i weithgareddau;

b) Defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau, hyfywedd y sefydliad a’r Gorfforaeth ac yn gyfrifol am ddiogelu eu hasedau;

c) Cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant;

d) Penodi, graddio, atal rhag gweithio, diarddel a phenderfynu cyflogau ac amodau gwasanaeth deiliaid uwch swyddi a Chlerc y Gorfforiaeth;

e) Sefydlu fframwaith ar gyfer cyflogau ac amodau gwasanaeth holl aelodau eraill y staff;

Gellir cael amrediad o wybodaeth am y Corff Llywodraethol a hynny’n cynnwys cofnodion cyfarfodydd drwy wneud apwyntiad yn y Swyddfa Weithredol ar Gampws Nantgarw. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Jennifer Owen, Swyddog y Drefn Lywodraethol, Coleg y Cymoedd, Heol y Coleg, Parc Nantgarw, Caerdydd. CF15 7QY jennifer.owen@cymoedd.ac.uk

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau