Aberdâr
Byddwch yn astudio ystod o unedau y mae rhai ohonynt yn trafod: datblygu gwybodaeth ddigidol gan ddefnyddio TG, datrys problemau technegol, creu gwefannau, creu rhaglenni cyfrifiadurol, ymchwilio i bwnc, gweithio gyda phobl eraill a defnyddio technolegau cyfathrebu digidol.
Byddwch yn astudio unedau fel: Byd Ar-lein, Systemau Technoleg, Portffolio Digidol, Creu Graffeg Ddigidol, Datblygu Apiau Symudol, Datblygu Cronfa Ddata, Systemau Cyfrifiadurol Awtomataidd, Datblygu Meddalwedd, Datblygu Cynhyrchion Amlgyfrwng, Cyfrifiadureg yn y Gweithle a Meddwl Cyfrifiannol.
Dros ddwy flynedd byddwch yn astudio ystod o fodiwlau sy’n ymwneud ag amrywiol agweddau ar ddatblygu gemau, gan gynnwys pynciau fel:
• Datblygu Gemau Cyfrifiadur • Graffeg Ddigidol 2D a 3D • Rhaglennu Cyfrifiaduron • Datblygu Gwefannau • Datblygu Apiau Symudol • Rheoli Prosiectau • Cyfryngau Cymdeithasol. Byddwch hefyd yn ymdrin â rhai pynciau TG mwy cyffredinol gan gynnwys: • Systemau TG • Systemau Rheoli Gwybodaeth • Seiberddiogelwch
Nod y cwrs yw helpu myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector gemau cyfrifiadur, y diwydiannau creadigol a/neu astudiaeth academaidd bellach. Bydd dysgwyr yn archwilio’r broses o greu gemau o nifer o safbwyntiau, megis cynhyrchu asedau, mecaneg gemau, estheteg ac injans. Ategir hyn gan ddisgwrs ddamcaniaethol, ddiwylliannol a chymdeithasegol.
Nantgarw
Byddwch yn astudio unedau fel: Byd Ar-lein, Systemau Technoleg, Portffolio Digidol, Creu Graffeg Ddigidol, Datblygu Apiau Symudol, Datblygu Cronfa Ddata, Systemau Cyfrifiadurol Awtomataidd, Datblygu Meddalwedd, Datblygu Cynhyrchion Amlgyfrwng, Cyfrifiadureg yn y Gweithle a Meddwl Cyfrifiannol.
Dros ddwy flynedd byddwch yn astudio ystod o fodiwlau sy’n ymwneud ag amrywiol agweddau ar seiberddiogelwch, bydd hyn yn cynnwys pynciau fel:
Ystrad Mynach
Byddwch yn astudio ystod o unedau y mae rhai ohonynt yn trafod: datblygu gwybodaeth ddigidol gan ddefnyddio TG, datrys problemau technegol, creu gwefannau, creu rhaglenni cyfrifiadurol, ymchwilio i bwnc, gweithio gyda phobl eraill a defnyddio technolegau cyfathrebu digidol.
Byddwch yn astudio unedau fel: Byd Ar-lein, Systemau Technoleg, Portffolio Digidol, Creu Graffeg Ddigidol, Datblygu Apiau Symudol, Datblygu Cronfa Ddata, Systemau Cyfrifiadurol Awtomataidd, Datblygu Meddalwedd, Datblygu Cynhyrchion Amlgyfrwng, Cyfrifiadureg yn y Gweithle a Meddwl Cyfrifiannol.
Dros ddwy flynedd byddwch yn astudio ystod o fodiwlau sy’n ymwneud ag amrywiol agweddau ar ddatblygu gemau, gan gynnwys pynciau fel:
• Datblygu Gemau Cyfrifiadur • Graffeg Ddigidol 2D a 3D • Rhaglennu Cyfrifiaduron • Datblygu Gwefannau • Datblygu Apiau Symudol • Rheoli Prosiectau • Cyfryngau Cymdeithasol. Byddwch hefyd yn ymdrin â rhai pynciau TG mwy cyffredinol gan gynnwys: • Systemau TG • Systemau Rheoli Gwybodaeth • Seiberddiogelwch
Mae’r cwrs ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn bod yn Dechnegydd TG. Mae’r cwrs Ymarferwyr TG Uwch yn rhoi’r cyfle ichi astudio’n llawn amser 5 diwrnod yr wythnos. Byddwch yn astudio ystod o bynciau o 2 gymhwyster: Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Systemau a Diploma Lefel 3 mewn Systemau ac Egwyddorion ar gyfer Gweithwyr TG Proffesiynol. Hefyd, byddwch yn mynychu 25 diwrnod o leoliad gwaith.
Mae’r Radd Sylfaen mewn TGCh yn gwrs masnachfraint Lefel 4/5 Prifysgol De Cymru. Mae’r cwrs yn gymhwyster Prifysgol De Cymru a astudir yn y coleg. Byddwch chi’n graddio gyda’ch cap a’ch gŵn yn y brifysgol ac yn derbyn eich gradd sylfaen o PDC. Dull astudio: 3 diwrnod yr wythnos ym mlwyddyn 1; 1 diwrnod yr wythnos ym mlwyddyn 2 (Lleoliad Gwaith ar gyfer diwrnodau eraill). Mae llawer o leoliadau wedi arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth llawn amser.
Mae’r dosbarthiadau’n hamddenol ac yn anffurfiol gan eich bod chi’n oedolion sy’n astudio cwrs prifysgol. Gan y byddwch yn dechnegol yn fyfyriwr PDC, byddwch yn dilyn dyddiadau tymor y Brifysgol sy’n golygu y byddwch yn dechrau ddiwedd mis Medi ac yn gorffen ym mis Mai. Mae ystafelloedd dosbarth yn ystafelloedd cyfrifiaduron modern llawn cyfarpar. Mae gennych fynediad at fersiynau diweddaraf meddalwedd o safon diwydiant (e.e., Adobe Photoshop, Animate, Dreamweaver a’r gyfres Microsoft Office 365 lawn, Visual Basic a QGIS).