Mae Swyddogion Llesiant ar gael i Ddysgwyr ar bob campws yng Ngholeg y Cymoedd.
Mae’r Tîm Llesiant a Diogelu yn rhoi cymorth ymarferol a phersonol i ddysgwyr i’w helpu i oresgyn problemau personol ac addysgol.
Mae’r Tîm Llesiant a Diogelu hefyd yn cefnogi dysgwyr sy’n Derbyn Gofal (CLA), Rhai sy’n Gadael Gofal a Gofalwyr Ifanc/Oedolion.
Mae gan bob Campws Hyrwyddwr CLA a Gofalwyr Ifanc/Gofalwyr sy’n Oedolion.
Gall ein Tîm Llesiant a Diogelu gynnig cymorth i ddysgwyr yn ymwneud â lles emosiynol, lles ariannol, tai, iechyd rhywiol, problemau yn y cartref, cyngor ar berthynas, diogelwch personol, pryder, a sgiliau ymdopi mewn arholiadau/asesiadau.
Mae’r Tîm Llesiant a Diogelu yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol sydd ar gael i bob dysgwr.
Os yw dysgwr neu rywun arall mewn perygl o niwed, ni fydd arferion cyfrinachedd yn berthnasol gan fod gan y Tîm Llesiant a Diogelu ddyletswydd i adrodd am bryderon sylweddol.
Gall dysgwyr ddod o hyd i Swyddogion Llesiant ar bob campws; dyma eu manylion.
Nantgarw
Ystrad Mynach
Rhondda
Aberdâr
I drefnu apwyntiad gyda Swyddog Llesiant, e-bostiwch y Tîm Llesiant ar: lles@cymoedd.ac.uk Fel arall, gall dysgwyr ymweld â’r Tîm Llesiant a Diogelu ar eu campws.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR