Mae Coleg y Cymoedd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion lleol ar draws Bwrdeistrefi Sirol Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Chaerdydd i sicrhau bod dysgwyr yn gallu archwilio’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i ysgolion megis mynychu digwyddiadau gyrfa ysgolion, ymweliadau â’r coleg, darparu cymorth i ddysgwyr, digwyddiadau pontio a helpu myfyrwyr gyda cheisiadau.
Os hoffech ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu i helpu eich myfyrwyr i ddarganfod eu hopsiynau o ran symud ymlaen ag unrhyw un o’r gweithgareddau a’r digwyddiadau rydym yn eu cynnig, neu os hoffech drafod sesiwn sydd wedi’i theilwra i’ch ysgol chi, cysylltwch â’n Tîm Cyswllt Ysgolion Isod
Janet Edwards
Rheolwr Derbyn a Recriwtio
e: janet.edwards@cymoedd.ac.uk