–
Yng Ngholeg y Cymoedd, bydd eich plentyn yn cael eu hannog i gyrraedd eu llawn botensial, gan fagu eu hyder a rhoi profiadau go iawn iddynt i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer eu cam nesaf pan fyddant yn gadael.
Mae ein dysgwyr yn astudio mewn cyfleusterau rhagorol, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ac yn cael eu haddysgu gan staff arbenigol. Byddwn yn cefnogi’ch plentyn i ennill y sgiliau a’r cymwysterau cywir i’w paratoi ar gyfer bywyd ar ôl coleg, boed hynny’n mynd ymlaen i addysg uwch, dilyn prentisiaeth neu ddechrau gyrfa wych.
Mae ein perthynas â dysgwyr yn cynnwys chi fel rhiant neu warcheidwad. Byddwn yn cyfathrebu â chi yn rheolaidd er mwyn rhoi gwybod i chi am gynnydd eich plentyn. Bydd pob dysgwr yn cael eu cefnogi gan diwtor personol i sicrhau eu bod yn aros ar y trywydd iawn i lwyddo a byddant yn cael tiwtorialau un i un rheolaidd. Gallwch gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau ynglŷn â chynnydd eich plentyn yn y coleg.