Mae ein cyrsiau Busnes yn fan cychwyn ac yn gyflwyniad i’r byd busnes. Gallwch astudio busnes cyffredinol neu arbenigo yn y maes Cyfrifeg, Rhaglenni TG, Rheoli Digwyddiadau, neu Farchnata.
fleoedd yn ddi-ben-draw gyda llwybrau gyrfaol ardderchog yn lleol ac yn genedlaethol. Gall swyddi yn y sectorau hyn fod yn rhai ysgogol, yn heriol ac yn hwyl.
Gallech ddysgu ystod o bynciau gan gynnwys: Dylunio Gwefannau, Cyhoeddi Pen Desg, Meddalwedd Dylunio, Meddalwedd Lluniadu a Chynllunio, Marchnata Digidol, Cynllunio Digwyddiadau, Cadw Cyfrifon a Chyfrifon ar Gyfrifiadur.
Addysgir ein cyrsiau gan bobl broffesiynol sy’n meddu ar brofiad ac â chysylltiadau â’r byd busnes go iawn. Cewch gyfle i ddefnyddio’ch sgiliau newydd ar leoliadau gwaith a chymryd rhan mewn cystadlaethau busnes a gweithgareddau entrepreneuraidd.