Mae cyrsiau Sgiliau Sylfaen yn rhoi cyfle ichi wella’ch sgiliau unigol a’ch sgiliau gweithio mewn tîm. Lluniwyd cyrsiau Mynediad Lefel 2 a 3 i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth, hyfforddiant yn y gweithle neu i’ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach ar gwrs brif ffrwd yng Ngholeg y Cymoedd. Nod y cyrsiau Cyn-Fynediad Lefel 1/2 yw datblygu’ch annibyniaeth, hunan-gymorth a’ch sgiliau cymdeithasol.
Mae cyrsiau sylfaen wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth, ar gyfer hyfforddiant yn y gwaith, neu i’ch paratoi ar gyfer astudio pellach ar gwrs prif ffrwd yng Ngholeg y Cymoedd.
Mae croeso i rieni a dysgwyr ymweld â champysau’r coleg i gwrdd â’r staff cyn gwneud cais. Cysylltwch â’r coleg am ragor o wybodaeth.