Bydd yn magu eich hyder wrth ddefnyddio cyfrifiadur neu wahanol apiau. Gall y cwrs gynnig amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd ac e-bost; teipio cyffwrdd; defnyddio amryw o raglenni Microsoft Office neu sut i ddefnyddio cyfrifiadur llechen. Bydd yn galluogi dysgwyr i gael mynediad at feddalwedd lleferydd a/neu chwyddo arbenigol, fel Jaws neu Supernova, ac i ddefnyddio gosodiadau hygyrchedd ar gyfrifiaduron llechen ac apiau addas.
Nid oes meini prawf mynediad ffurfiol.
Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb mewn mynychu'r coleg am sgwrs anffurfiol i drafod eu hanghenion, i bennu’r ffordd orau o weithio iddynt ac i ddod i ddeall y gosodiadau gwahanol y gallai fod eu hangen arnynt ar y cyfrifiadur neu'r llechen, sy'n berthnasol i'w cyflyrau llygaid penodol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd myfyrwyr yn ennill uned sy'n gysylltiedig â bwrdd cymwysterau Agored Cymru. Asesir drwy bortffolio, a lunnir yn ystod y gwersi yn y dosbarth. Nid oes unrhyw arholiadau.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech wneud unedau pellach Agored Cymru neu symud i gyrsiau eraill yn y coleg.