Mae'r cwrs yn dilyn y cwricwlwm ILS; gyda’r pedair colofn ddysgu yn graidd i’r rhaglen:
• Iechyd a Lles
• Cynhwysiant Cymunedol
• Byw'n Annibynnol
• Cyflogadwyedd
Mae'r cwricwlwm yn darparu dull ymarferol a hyblyg o feithrin a chydgrynhoi sgiliau ym mhob un o'r meysydd hyn er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd fel oedolyn.
Mae sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol yn rhan allweddol o ddysgu, ac mae cyfleoedd i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau hyn wedi'u hymgorffori ym mhob un o'r pedair colofn.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond cynhelir cyfweliad anffurfiol. Yn ystod y cyfweliad, cwblheir asesiad cychwynnol i asesu amrywiaeth o sgiliau. Trafodir anghenion cymdeithasol ac emosiynol y dysgwr er mwyn sicrhau bod y cwrs yn addas ar gyfer eu hanghenion.
Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn gweithio tuag at lefel Mynediad 2/3.
Nid oes asesiadau ffurfiol ar y rhaglen hon. Bydd cynnydd myfyrwyr tuag at dargedau unigol yn cael ei asesu a'i adolygu'n barhaus. Cynhelir adolygiadau gyda myfyrwyr a'u rhieni/gofalwyr drwy gydol y flwyddyn. Mae dilyniant yn cael ei olrhain drwy osod targedau ac asesu.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd cyfle i chi symud ymlaen i gyrsiau ar lefel uwch mewn maes galwedigaethol.