Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Yng Ngholeg y Cymoedd rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth fel y gall yr holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â’r Coleg fod yn hyderus y cânt eu trin ag urddas a pharch.

Nid ydym yn goddef aflonyddu, erledigaeth na gwahaniaethu. Ein nod yw cynnal diwylliant sy’n cynnwys pob rhan o gymdeithas ac sy’n rhydd o wahaniaethu a thriniaeth annheg ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol .

Mae’r adran hon yn darparu cysylltiadau â meysydd penodol o weithgarwch Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan gynnwys ein polisïau cyfredol a’n hamcanion Cydraddoldeb.

 

Polisïau

Stonewall

Mae Coleg y Cymoedd yn aelod balch o Raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall.

Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall yw fforwm arfer da Prydain sy’n hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle i weithwyr a myfyrwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) ac mae’n dwyn ynghyd brif gyflogwyr y DU i hyrwyddo amrywiaeth.

Mae’r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn hyrwyddo amgylchedd gwaith da i’r bob aelod o staff a myfyriwr presennol a phob darpar aelod o staff a myfyriwr ac yn helpu sicrhau triniaeth gyfartal i’r rhai sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol.

Mae ein haelodaeth o’r rhaglen hon yn cefnogi ein hymdrechion i wneud y Coleg yn amgylchedd cynhwysol a chefnogol i weithio ynddo, astudio ynddo ac ymweld ag ef. Byddwn yn hyrwyddo ein hymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb o ran cyfeiriadedd rhywiol trwy:

– Mewnosod arfer gorau o ran cydraddoldeb cyfeiriadedd rhywiol i’n polisi a’n ymarfer.  

– Cymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb y Gweithle Stonewall

– Creu rhwydwaith staff a dysgwyr LHDT

Os hoffech ragor o wybodaeth, neu os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Zoe Wellington ar 01443 653618 neu Zoe.Wellington@cymoedd.ac.uk.

“Mae pobl yn perfformio’n well pan allant fod eu hunain”- Stonewall

Rhwydwaith Staff LHDT+

Mae rhwydweithiau staff yn cael eu cynnal gan staff ac yn dod â phobl o’r holl gyfadrannau, adrannau a gwasanaethau at ei gilydd sy’n ymuniaethu â’r grŵp. Mae rhwydweithiau staff yn cyflawni gwahanol swyddogaethau gan gynnwys cynnig cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, cefnogaeth gan gymheiriaid a datblygiad personol. Gall rhwydweithiau staff hefyd gyfrannu at ddatblygu polisïau ac arferion gwaith y Coleg.

Mae Coleg y Cymoedd yn cydnabod gwerth grwpiau hunandrefnedig wrth greu amgylchedd sy’n parchu amrywiaeth staff ac yn eu galluogi i fanteisio a chael y mwynhad mwyaf o’u cyfranogiad ym mywyd y Coleg.

Mae gan Goleg y Cymoedd Rwydwaith Staff LHDT + (Amity) sy’n agored i bob gweithiwr ac yn cynnwys pobl LHDT â hunaniaeth luosog. Prif nod y rhwydwaith yw darparu amgylchedd diogel, cyfrinachol a chefnogol i’r holl staff sy’n ymuniaethu fel LHDT + i gwrdd â’i gilydd a rhannu eu barn, eu profiadau a’u pryderon. Mae’r rhwydwaith yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cynnal sesiynau galw heibio anffurfiol ar bob campws. Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at lgbt@cymoedd.ac.uk

Minitro Data

Mae Coleg y Cymoedd yn defnyddio data cydraddoldeb i ddeall proffil y gweithlu, i’n galluogi i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen ar ein staff er mwyn gweithio, perfformio a mwynhau bywyd yn y Coleg.

Trwy gasglu a monitro data, byddwn yn gwella ein gwaith ymhellach i ddatblygu darlun mwy cynhwysfawr o’r Coleg, a gallwn asesu effaith ein polisïau ar staff a meysydd targed tan-gynrychiolaeth, gan gynnig gwybodaeth a chefnogaeth mewn modd priodol.

Mae system Adnoddau Dynol a Chyflogres ar-lein y Coleg, Team Spirit, yn caniatáu i bob gweithiwr reoli eu data monitro a gall staff ddiweddaru eu proffil eu hunain trwy fynd i’r adran hunan-wasanaeth.

Mae’r wybodaeth a gasglwn yn ymwneud â’r naw ‘nodwedd warchodedig’ fel y nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010: oed, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhyw, hil, crefydd neu gred, tueddfryd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth.

Cedwir a chynhelir yr holl wybodaeth bersonol am staff yn ddiogel ac yn gyfrinachol.

Mae canllaw a gynhyrchir gan Stonewall “Beth yw’r Pwynt” yn daflen gryno addysgiadol iawn ar pam ei bod yn bwysig darparu a chasglu gwybodaeth a data. Gallwch weld y canllaw hwn yma …

Menter Working Forward

Mae Coleg y Cymoedd yn aelod balch o’r fenter Working Forward a ddatblygwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).

Trwy ymuno â Working Forward rydym wedi addo gweithio tuag at greu’r gweithle gorau posibl ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd.

Hyderus ag Anableddau

Mae Coleg y Cymoedd yn gyflogwr Hyderus ag Anableddau.

Rydym wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth a datblygu gyrfa i bobl anabl ac i sicrhau bod pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth, yn ymgysylltu ac yn gallu cyflawni eu potensial yn y gweithle.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau