Croeso i dudalen allanol Adran Caffael Coleg y Cymoedd. Cynlluniwyd y dudalen hon i ddarparu gwybodaeth i ddarpar gyflenwyr.
Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o £41m. Wrth wario oddeutu £ 9m y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau fel TG, gwasanaethau glanhau, teithio, offer, gwasanaethau ymgynghori ac adeiladu, rhaid i’r Coleg sicrhau gwerth am arian a chydymffurfiaeth.
Mae penderfyniadau prynu o ddydd i ddydd ar lefel adrannol sy’n caniatáu system gyllidebu â chyfrifoldeb datganoledig. Mae gweithgarwch caffael gwerth uchel (> £ 25,000) yn cael ei dendro gan yr adran berthnasol sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau i ddiwallu’r anghenion gweithredol.
I gysylltu â’r Adran Caffael, anfonwch e-bost at Procurement@cymoedd.ac.uk
Mae Coleg y Cymoedd yn cyhoeddi tendrau lle bo hynny’n briodol ar gyfer amrywiol gontractau a chytundebau. Hefyd, mae gennym fynediad at fframweithiau a chytundebau sector cyhoeddus.
Fel corff sector cyhoeddus mae’r Coleg yn cydymffurfio â Chyfarwyddebau’r UE ar gyfer gwaith, nwyddau a gwasanaethau sy’n uwch na’r trothwyon. Mae unrhyw dendrau sy’n uwch na’r trothwyon yn cael eu hysbysebu ar Sell2Wales.
Polisi dim archeb prynu, dim tâl
Ni allwn eich talu chi heb rif archeb prynu ddilys (rhif PO). Rhaid ichi gael y rhif hwn gennym ni a’i ddyfynnu ar yr anfoneb inni.
Sicrhewch eich bod yn dyfynnu’r rhif PO perthnasol ar gyfer yr archeb benodol ac nad ydych yn dyfynnu hen rifau PO yn anfwriadol ar gyfer archebion newydd. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn eich talu cyn gynted â phosibl.
Beth os na fyddaf yn derbyn archeb prynu?
Polisi’r Coleg yw bod yn rhaid gwneud pob cais am nwyddau a gwasanaethau gan ddefnyddio archeb prynu swyddogol. Dylech ofyn am archeb prynu cyn cyflenwi unrhyw nwyddau neu wasanaeth i’r Coleg. Os nad ydych wedi gwneud hynny, dylid cael rhif archeb prynu gan eich cyswllt yn y Coleg cyn gynted â phosibl.
Dim ond nwyddau a gwasanaethau a brynir drwy’r Cerdyn Prynu sydd wedi’u heithrio.
Sut olwg sydd ar rif yr archeb prynu?
Bydd gan rif PO dilys o’r Coleg wyth digid.
Beth fydd yn digwydd i’m hanfoneb os na ddyfynnaf rif archeb prynu ddilys?
Bydd anfonebau heb rif PO dilys yn cael eu dychwelyd i’r cyflenwr a rhaid iddynt wedyn gael rhif PO dilys. Dim ond ar ôl derbyn anfoneb ddilys (gan ddyfynnu Rhif PO) y bydd telerau talu yn cychwyn a fydd yn golygu oedi o ran eich talu.
Beth yw telerau talu’r Coleg?
Ein telerau talu safonol yw 30 diwrnod ar ôl derbyn anfoneb ddiamheuol gywir.
Beth yw dull talu’r Coleg?
Gwneir pob taliad drwy BACS.
Gwneir penderfyniadau prynu o ddydd i ddydd ar lefel adrannol.
Mae ein cyfleoedd contract ar gael yn Sell2Wales, gwefan gaffael genedlaethol Cymru.
I gysylltu â’r Adran Caffael, anfonwch e-bost at: Procurement@cymoedd.ac.uk
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR