Lluniwyd cyrsiau Mynediad ar gyfer y rhai sydd â phrofiad helaeth o fywyd y tu allan i fyd addysg ac sydd am fynd i’r Brifysgol ond sydd heb y cymwysterau angenrheidiol i wneud cais.
Cydnabyddir cyrsiau mynediad fel dull cefnogol o ddychwelyd i fyd addysg ac astudio ystod o bynciau a sgiliau a fydd yn eich paratoi ar gyfer Addysg Uwch. Mae cwrs Mynediad yn brofiad dysgu cyflym a dwys, ond yn un sy’n bleserus ac yn llawn boddhad. Lluniwyd cyrsiau Mynediad yng Ngholeg y Cymoedd i ffitio i mewn i fywyd prysur teulu. Maent yn addas ar gyfer dysgwyr oed 19+ sy’n dychwelyd i fyd addysg. Mae’r cyrsiau hyn yn llenwi’n gyflym, felly, gwnewch gais yn gynnar. Mae’n hanfodol bod gennych sgiliau cyfathrebu da, agwedd gyfrifol a’ch bod yn benderfynol o lwyddo.
Byddwch yn ymwybodol fod angen TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (ac mewn rhai achosion TGAU Gwyddoniaeth) gradd C o leiaf er mwyn mynd i’r Brifysgol. Os nad ydych yn cwrdd â’r gofynion hyn, gallwch drafod eich opsiynau adeg eich cyfweliad.