Bydd ein cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa mewn lifrai, yn yr heddlu efallai neu yn y Gwasanaeth Ambiwlans, Tân neu’r Lluoedd Arfog. Yn ystod y cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau, y sgiliau a’r cymwyseddau fydd eu hangen i’ch paratoi ar gyfer eich proses recriwtio. Byddwch hefyd yn dysgu am y gyfraith a throseddeg. Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio’r profiad a’r cymwysterau a enillwch i symud ymlaen i astudio cwrs prifysgol.
Cewch gyfle i gymryd rhan mewn nifer o sesiynau hyfforddi ymarferol a chwarae rôl. Efallai cewch ymweld ag un o longau’r Llynges Frenhinol, neu ymarfer gyda Heddlu De Cymru, mynychu dyddiau ‘Look at Life’ gyda Môr-filwyr y Llynges ynghyd ag ymweliadau â gorsafoedd lleol y frigâd dân.
Bydd ymweliadau gan aelodau’r Heddlu, Y Fyddin, Y Gwasanaeth Tân ac eraill yn rhoi cipolwg i chi ar waith y bobl broffesiynol hyn o ddydd i ddydd yn eich dewis faes.
Croeso gan Bennaeth Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus