Y Gymraeg

Cymraeg yng Ngholeg y Cymoedd

Croeso i Goleg y Cymoedd!

Cwrdd â’r Tîm

Lois Roberts

Rheolwr y Gymraeg or staff) Tutor

Yr hyn rwy’n ei wneud:

Rydw i’n rheoli Tîm y Gymraeg. Mae’r tîm yn gyfrifol am ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng-Cymraeg a dwyieithog; amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg a chreu cyfleoedd i ddysgwyr a staff gadw a gwella eu sgiliau Cymraeg.

E-bost: lois.roberts@cymoedd.ac.uk

Ffôn: 01443 810127

Alison Kitson

Tiwtor Cymraeg (i staff)

Yr hyn rwy’n ei wneud:

Rydw i’n cyflwyno’r rhaglen Cymraeg Gwaith i staff y Coleg ar wahanol lefelau ac yn cynnig cyfleoedd anffurfiol i ddysgwyr ddysgu Cymraeg.

E-bost: alison.kitson@cymoedd.ac.uk

Ffôn: 01443 810070

Gethin Gwyn

Tiwtor Cymraeg

Yr hyn rwy’n ei wneud:

Fy mhrif gyfrifoldeb yw cynnig darpariaethmewn tiwtorialau yn y meysydd blaenoriaeth. Dwi’n ceisio ehangu dealltwriaeth o’r uned a
nodwyd a gosod y dysgu mewn cyd-destun ar gyfer y gweithle

Liam Higgins

Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd or staff) Tuto

Yr hyn rwy’n ei wneud:

Fi yw swyddog cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn Coleg y Cymoedd. Fy rôl i yw i helpu hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ledled y coleg drwy gynnal gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr a staff.

E-bost: liam.higgins@cymoedd.ac.uk

Nerys Davies
Hwylusydd y Gymraeg – Ysgol y Diwydiannau Creadigol  

Yr hyn rwy’n ei wneud:

Fi yw’r Hwylusydd Ysgol y Diwydiannau Creadigol. Mae fy rôl yn gofyn i mi ddarparu darpariaeth trwy gynnig gweithgareddau, dysgu Cymraeg i bob Tiwtor Cwrs ar gyfer un uned. Darperir yr uned hon yn ddwyieithog bob amser wrth symud
ymlaen. Byddaf yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno yn y dosbarth a gweithio gyda siaradwyr Cymraeg i gwblhau asesiadau yn y Gymraeg.
Fy nod yw atgyfnerthu dysgu’r meini prawf asesu mewn cyd-destun dwyieithog.

E-bost: nerys.davies@cymoedd.ac.uk

Rhys Ruggiero
Hwylusydd y Gymraeg – Ysgol Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus 


Yr hyn rwy’n ei wneud:

Fi yw’r Hwylusydd Ysgol Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae fy rôl yn gofyn i mi ddarparu darpariaeth trwy gynnig gweithgareddau, dysgu Cymraeg i bob Tiwtor Cwrs ar gyfer un uned. Darperir yr uned hon yn ddwyieithog bob amser wrth symud
ymlaen. Byddaf yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno yn y dosbarth a gweithio gyda siaradwyr Cymraeg i gwblhau asesiadau yn y Gymraeg.
Fy nod yw atgyfnerthu dysgu’r meini prawf asesu mewn cyd-destun dwyieithog.

Lois Moremon
Hwylusydd y Gymraeg – Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr hyn rwy’n ei wneud:

Fi yw’r Hwylusydd Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae fy rôl yn gofyn i mi ddarparu darpariaeth trwy gynnig gweithgareddau, dysgu Cymraeg i bob Tiwtor Cwrs ar gyfer un uned. Darperir yr uned hon yn ddwyieithog bob amser wrth symud
ymlaen. Byddaf yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno yn y dosbarth a gweithio gyda siaradwyr Cymraeg i gwblhau asesiadau yn y Gymraeg.
Fy nod yw atgyfnerthu dysgu’r meini prawf asesu mewn cyd-destun dwyieithog.

E-bost: Lois.moremon@cymoedd.ac.uk

Sian Stephens
Hwylusydd y Gymraeg – Ysgol Busnes a Chyllid


Yr hyn rwy’n ei wneud:

Fi yw’r Hwylusydd Ysgol Ysgol Busnes a Chyllid. Mae fy rôl yn gofyn i mi ddarparu darpariaeth trwy gynnig gweithgareddau, dysgu Cymraeg i bob Tiwtor Cwrs ar gyfer un uned. Darperir yr uned hon yn ddwyieithog bob amser wrth symud
ymlaen. Byddaf yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno yn y dosbarth a gweithio gyda siaradwyr Cymraeg i gwblhau asesiadau yn y Gymraeg.
Fy nod yw atgyfnerthu dysgu’r meini prawf asesu mewn cyd-destun dwyieithog.

E-bost: Sian.stephens@cymoedd.ac.uk

Bethan Greenhaf
Darlithydd Gofal Plant cyfrwng Cymraeg


Yr hyn rwy’n ei wneud:

Fi yw’r darlithydd Gofal Plant cyfrwng Cymraeg. Rydw i’n dysgu unedau Gofal Plant yn ddwyieithog a rhoi cymorth i myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg

Cwrdd â Llysgenhadon y Gymraeg

Carys Roach

Lefel 2 Mynediad Sgiliau ar Gyfer Astudiaeth Bellach (Gwyddoniaeth)

Ashli Phelps

Lefel 2 Cynhyrchu a Thechnoleg y Cyfryngau Creadigol

Madison Brown

Lefel 3 Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol

Luca McAlpine

Lefel 3 Cyfryngau Creadigol a Chynhyrchu Creadigol

Mae croeso mawr ichi gysylltu â ni!

Fel coleg a leolir yng Nghymru, credwn ei bod yn bwysig dathlu ein treftadaeth falch a bod yn rhagweithiol wrth helpu ein dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y dosbarth a’r tu allan i’r dosbarth – p’un a ydynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu ddim ond yn gwybod tipyn bach. Mae gallu siarad Cymraeg yn cael ei werthfawrogi fwyfwy fel sgil ychwanegol yn y gweithle, felly gall cadw eich sgiliau Cymraeg fod yn fantais wirioneddol i chi yn y dyfodol.Felly, beth sydd angen ichi ei wybod am y Gymraeg yn y Coleg? Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf.

Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog

Mae rhai pethau y gallwch chi eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog (yn amodol ar niferoedd hyfyw):-

  • Darpariaeth dwyieithog ar Lefel 2 a 3 ym maes Gofal Plant (a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
  • Darpariaeth dwyieithog ar Lefel 2 a 3 ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
  • Darpariaeth dwyieithog newydd ar Lefel 2 a 3 ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus (a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
  • Darpariaeth dwyieithog ar Lefel 2 a 3 ym maes Chwaraeon (a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
  • Darpariaeth dwyieithog newydd ar Lefel 2 a 3 ym maes Creadigol (a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
  • Darpariaeth dwyieithog newydd ar Lefel 2 a 3 ym maes Busnes (a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
  • Dosbarth ailsefyll TGAU Mathemateg cyfrwng-Cymraeg
  • Grwpiau Bagloriaeth Cymru dwyieithog ar lefel Uwch Gyfrannol a Safon Uwch drwy’r Ganolfan Safon Uwch;
  • Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn y Gymraeg (Ail iaith)

Cymorth a Chefnogaeth

Felly, beth allwn ni ei wneud yn y Coleg i’ch helpu chi i gynnal neu wella’ch sgiliau Cymraeg neu i ddysgu ychydig o Gymraeg os nad ydych chi wedi ei dysgu o’r blaen?

  • Aelodaeth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Mynediad at lu o adnoddau a ddarperir gan Goleg y Cymoedd a’r  Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Rhestrau o dermau dwyieithog
  • Cyfleoedd i ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg ddefnyddio a datblygu eu sgiliau iaith mewn ffordd anffurfiol drwy fynychu ein clwb gweithgareddau cyfrwng-Cymraeg ar-lein, sef Clwb Cymraeg y Cymoedd
  • Cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Calendr o ddigwyddiadau Cymreig a Chymraeg drwy gydol y flwyddyn
  • Cyfle i siaradwyr Cymraeg gael eu cyflogi fel Llysgenhadon Cymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Eich Iaith; Eich Hawl

Mae’r Gymraeg yn perthyn i chi. O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae gennych yr hawl i gael gwasanaethau a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna yw eich dymuniad. Fel coleg, hoffem eich annog i fanteisio ar yr hawliau hyn yn ystod eich amser gyda ni.   Mae gennych yr hawl i’r canlynol:  

  • Llythyrau, ffurflenni a gohebiaeth gan y Coleg yn Gymraeg  
  • Llyfryn croeso a phrosbectws yn Gymraeg  
  • Ymgeisio am gymorth ariannol yn Gymraeg  
  • Tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg  
  • Mynediad at wasanaeth cwnsela cyfrwng-Cymraeg  
  • Cyfarfodydd sy’n ymwneud â chwynion, materion disgyblu a chefnogaeth yn Gymraeg  

Ac, yn amodol ar gymeradwyaeth corff dyfarnu eich cwrs, mae gennych yr hawl i’r canlynol:  

  • Cyflwyno gwaith yn Gymraeg  
  • Tystysgrifau yn Gymraeg  

Calendr o ddigwyddiadau Cymraeg a Chymreig

Yma, yng Ngholeg y Cymoedd mae gennym galendr o ddigwyddiadau er mwyn dathlu ein cymreictod. Dyma restr o rai ohonynt. Ymunwch yn y dathlu ar draws y Coleg!

16 Medi – Diwrnod Owain Glyndŵr

15 Hydref – Diwrnod Shwmae Sumae

7 Rhagfyr – Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

11 Rhagfyr – Diwrnod Llywelyn ein Llyw Olaf

25 Ionawr Diwrnod Santes Dwynwen

10 Chwefror – Dydd Miwsig Cymru

1 Mawrth – Dydd Gwyl Dewi

27 Chwefror – 3 Mawrth – Wythnos Gymreig

29 Mai – 3 Mehefin – Eisteddfod yr Urdd

Mehefin – Ffiliffest

Gorffennaf – Party Ponty

5-2 Awst – Eisteddfod Genedlaethol

Gwefannau defnyddiol

Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Mae’r Coleg yn gweithio ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Mae’n ariannu darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/

Cysill and Cysgeir – Gwiriwr sillafu Cymraeg a geiriadur – sydd ar gael ar holl gyfrifiaduron y Coleg dan y ffolder ‘Cysgliad’. Maent hefyd ar gael ar-lein https://www.cysgliad.com/

Y Termiadur Addysg – Terminoleg ar gyfer y byd addysg http://www.termiaduraddysg.org/

 Llywodraeth Cymru – pob math o wybodaeth am ddeddfwriaeth a strategaethau Cymraeg. https://llyw.cymru/y-gymraeg/

Selar – Gwybodaeth ddiweddaraf a newyddion am y sîn gerddoriaeth gyfoes Gymreig. https://selar.cymru/ Wicipedia – Fersiwn Cymraeg Wikipedia https://cy.wikipedia.org/wiki/Hafan

Golwg 360 – Cylchgrawn wythnosol Cymraeg ar-lein https://golwg360.cymru/

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf – sefydliad lleol yn RhCT sy’n annog brwdfrydedd lleol i ddefnyddio mwy o Gymraeg – maent yn trefnu pob math o weithgareddau ar gyfer pob oed. http://www.menteriaith.cymru

Menter Iaith Caerffili – sefydliad lleol yn ardal Caerffili sy’n annog brwdfrydedd lleol i ddefnyddio mwy o Gymraeg – maent yn trefnu pob math o weithgareddau ar gyfer pob oed. http://www.mentercaerffili.cymru/

S4C – Y sianel deledu Gymraeg http://www.s4c.cymru/

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – https://dysgucymraeg.cymru/

Mae’ Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr,
myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddyn nhw.
Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a’r
gefnogaeth. Gallwch ddarllen mwy am with y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
yma.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau