Rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau drwy ddarparu cyfleoedd addysg, hyfforddiant a gyrfa ers dros 75 mlynedd. Gyda bron i 800 o staff yn cael eu cyflogi yng Ngholeg y Cymoedd, ni yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn Rhondda Cynon Taf a Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Rydym yn angerddol am newid bywydau – gan anelu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymuned a’r byd yr ydym yn rhan ohono.
Cyflog cystadleuol o fewn y Sector AB
Hawliau gwyliau blynyddol hael
Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol neu Athrawon
Cyfleoedd i ddysgu Cymraeg
Cyfleoedd gyrfa a datblygiad personol ardderchog
Hyfforddiant am ddim ar gyrsiau a ariennir gan y Coleg
Rhaglen Cymorth Gweithwyr Am Ddim
Mynediad i Dalebau Gofal Plant a Chynlluniau Beicio i’r Gwaith
Darpariaeth iechyd galwedigaethol
Cyfres lawn o bolisïau cyfeillgar i deuluoedd i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith
Campfeydd ar gampysau Nantgarw ac Ystrad Mynach
Parcio am ddim ar holl gampysau’r Coleg