Mwynhewch werth am arian rhagorol yn ein Bwytai, Campfeydd Ffitrwydd, Salonau a Meithrinfeydd Dydd.
Mae gennym gyfleusterau gwych i’n dysgwyr astudio ynddynt. Mae rhai o’r cyfleusterau hyn ar agor i’r cyhoedd gael eu mwynhau, gan ddarparu gwerth am arian a gwasanaeth gwych, yn ogystal â phrofiad gwaith gwerthfawr i’n dysgwyr.
Mwynhewch bryd o’r radd flaenaf yn un o’n bwytai.
Mae Carriages, Colliery 19, Nant a Scholars i gyd yn cynnig gwerth am arian a bwyd gwych.
Mwynhewch foethusrwydd yn un o’n salonau.
Mae pob salon yn cynnig ystod eang o Therapïau Trin Gwallt, Harddwch a Chyflenwol.
Mae gan Goleg y Cymoedd ystafelloedd ffitrwydd ar gampysau Nantgarw ac Ystrad Mynach a ddefnyddir gan ein dysgwyr Chwaraeon, mae’n cynnwys yr offer cardio a chodi pwysau diweddaraf.
Maent yn agored i ddysgwyr eraill hefyd ar wahanol adegau o’r dydd. Cysylltwch â’r cyfleusterau chwaraeon ar bob campws am ragor o wybodaeth.
Mae cyfleusterau meithrinfa ar gael ar ein campws yn Nantgarw ac Ystrad Mynach.
Mae Meithrinfa Nantgarw yn cael ei weithredu’n breifat gan Acorns Nursery. Gweithredir Meithrinfa Ystrad Mynach gan staff a gyflogir gan y coleg.