Cymorth Ariannol

Yng Ngholeg y Cymoedd rydym yn deall bod costau’n gysylltiedig â mynychu’r coleg. I helpu gyda chostau astudio, mae sawl grant a allai fod ar gael i chi, yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Mae LCA (EMA) ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd am barhau â’u haddysg ar ôl oed gadael ysgol. Ar yr amod eich bod yn gymwys i dderbyn y lwfans, gallech gael £40 yr wythnos, wedi ei dalu bob pythefnos.

Manylion

Mae LCA (EMA) ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd am barhau â’u haddysg ar ôl oed gadael ysgol. Ar yr amod eich bod yn gymwys i dderbyn y lwfans, gallech gael £40 yr wythnos, wedi ei dalu bob pythefnos.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru

Er mwyn derbyn eich taliadau wythnosol, bydd angen i chi hefyd gwblhau Cytundeb Dysgu gyda’r coleg a bod yn bresennol 100% bob wythnos.Gellir darllen rheolau a chanllawiau LCA yma

Cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr a Champws eich campws am ragor o wybodaeth.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru

Mae’r grant hwn ar gyfer myfyrwyr 19 oed a throsodd sy’n astudio ar gwrs Addysg Bellach mewn coleg. At yr amod eich bod yn gymwys i dderbyn y grant, gallech gael hyd at £1,500 y flwyddyn.

Manylion

Mae’r grant hwn ar gyfer myfyrwyr 19 oed a throsodd sy’n astudio ar gwrs Addysg Bellach mewn coleg. At yr amod eich bod yn gymwys i dderbyn y grant, gallech gael hyd at £1,500 y flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr a Champws eich campws am ragor o wybodaeth.

Cronfa Ariannol Wrth Gefn

Cymorth ariannol i ddysgwyr sy’n wynebu anawsterau o ganlyniad i incwm isel.

Manylion

BETH SYDD ANGEN I CHI WYBOD

Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn gefnogaeth i ddysgwyr 16+ oed ar gwrs Addysg Bellach LLAWN AMSER. Darperir y gronfa gan Lywodraeth Cymru i golegau er mwyn cefnogi dysgwyr. Mae’r gronfa’n gyfyngedig a gall newid, codi neu ostwng o dymor i dymor oherwydd lefel y cyllid y mae’r Coleg yn ei dderbyn bob blwyddyn. (Nid yw Dysgwyr Addysg Uwch yn gymwys ar gyfer y gronfa hon).


Rhennir cymorth y Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn ddau faes, gweler isod gan fod ychydig o bethau y bydd angen ichi eu gwirio i sicrhau eich bod yn gymwys i wneud cais:


CYMORTH PRYDAU AM DDIM:
Cyn i chi wneud cais am Brydau Am Ddim gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys i wneud cais. Rhaid eich bod yn derbyn unrhyw un o’r canlynol, cyn belled â nad yw cyfanswm incwm blynyddol eich cartref yn fwy na £16,390:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Cymorth o dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen warantedig y Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych yr hawl hefyd i Gredyd Treth Gwaith a bod cyfanswm eich incwm blynyddol yn llai na £16,390)
  • Credyd Treth Gwaith (ar yr amod bod cyfanswm eich incwm blynyddol yn llai na £16,390)
  • Credyd Treth Gwaith dilynol – a delir am 4 wythnos ar ôl ichi beidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol – os gwnewch gais ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny, rhaid i incwm eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn (ar ôl treth a heb gynnwys unrhyw fudd-daliadau a gewch)


Gall pobl ifanc sydd am dderbyn y budd-daliadau hyn yn uniongyrchol, yn lle drwy riant neu warcheidwad, wneud cais hefyd.

Er mwyn cefnogi’ch cais efallai y bydd angen ichi ddarparu un o’r canlynol fel tystiolaeth:

  • copi o’r dudalen ” Sut mae’ch Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei gyfrifo” o lythyr diweddar. Os nad oes gennych y dudalen hon, cysylltwch â’ch Asiantaeth Budd-daliadau lleol
  • eich Hysbysiad Dyfarniad Treth cyfredol. Os nad oes gennych y ddogfen hon, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Cyllid y Wlad ar 0845 300 3900

Pan fyddwch chi’n gwneud cais, mae’n rhaid ichi uwchlwytho’ch tystiolaeth i’r ffurflen gais. Os na fyddwch chi’n uwchlwytho’ch tystiolaeth, ni ellir prosesu’ch cais.

CYMORTH ARALL:
Os ydych yn derbyn LCA (Lwfans Cynhaliaeth Addysg) neu GDLlC (Grant Dysgu Llywodraeth Cymru) ac os ydych wedi llofnodi eich cytundeb dysgwr gyda’r Coleg, gallwch wneud cais am y canlynol heb uwchlwytho tystiolaeth i’r ffurflen gais.
Cymorth Teithio: Gallwch hawlio cost lawn y cit yn ôl
Cymorth DBS: gallwch hawlio’r gost am DBS lawn yn ôl
Cymorth Gofal Plant: Bydd y Coleg yn eich helpu gyda ffioedd gofal plant hyd at uchafswm o £50 y dydd. Nodwch y canlynol os gwelwch yn dda:

  • Os dewiswch ddarparwr gofal plant sy’n codi mwy na’r uchafswm o £50 y diwrnod, cyfrifoldeb y dysgwr fydd talu unrhyw ffioedd ychwanegol uwchlaw’r uchafswm a ddyrennir gan y Coleg.
  • Nid yw’r Coleg yn talu ffioedd cadw na ffioedd gwyliau. Cyfrifoldeb y dysgwr yw talu’r rhain hefyd.
  • Mae’r gyllideb ar gyfer Cymorth Gofal Plant yn gyfyngedig ac fe’i dyrennir ar sail y cyntaf i’r felin.
  • Nid yw’r Coleg yn derbyn unrhyw atebolrwydd am y dewis o ddarparwr gofal plant y mae’r dysgwr yn ei ddewis.
  • Nid yw’r Coleg yn derbyn unrhyw atebolrwydd am y gofal a ddarperir gan y darparwr gofal plant rydych chi’n ei ddewis i ofalu am eich plentyn.
  • Dim ond ar gyfer y cyfnodau y mae’r myfyriwr yn ‘bresennol’ ar gofrestr y Coleg y mae’r Coleg yn talu am ffioedd.
  • Cyfrifoldeb y dysgwr yw sicrhau ei fod yn fodlon â’r darparwr gofal plant cyn ymrwymo i gytundeb cyfreithiol priodol gyda’r darparwr Gofal Plant.

Mae ffurflenni cais ar gyfer 23-24 ar gael yma drwy https://learnerhub.cymoedd.ac.uk/Page/U_FCFOoverview

Hefyd, gallwch gael rhagor o wybodaeth gan eich tîm Gwasanaethau Dysgwyr a Champws a leolir yn Nerbynfa eich Campws.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost o gymeradwyaeth gan y Swyddog Grantiau yn cadarnhau’r math o gymorth rydych wedi’ch cymeradwyo ar ei gyfer a chyfarwyddiadau ynghylch beth i’w wneud nesaf.

Cymorth Ariannol Addysg Uwch

Gall pob myfyriwr llawn amser cymwys hawlio o grant o o leiaf £1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu’n ôl, waeth beth fo incwm eu cartref, a bydd grantiau prawf modd o hyd at £10,124 yn Llundain a £8,100 yng ngweddill y DU ar gael i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Manylion

Gall pob myfyriwr llawn amser cymwys hawlio o grant o o leiaf £1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu’n ôl, waeth beth fo incwm eu cartref, a bydd grantiau prawf modd o hyd at £10,124 yn Llundain a £8,100 yng ngweddill y DU ar gael i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Bydd pecyn tebyg ar gael i fyfyrwyr rhan amser cymwys, ar sail pro-rata sy’n gysylltiedig â dwyster astudio.

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymorth i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs addysg uwch (AU) dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus. I fod yn gymwys ar gyfer cymorth statudol i fyfyrwyr, rhaid i’r cwrs arwain at gymhwyster yn un o’r canlynol:

Gradd Gyntaf e.e. Baglor Celf, Gwyddoniaeth neu Addysg (BA, BSc neu BEd)

Gradd Sylfaen

Tystysgrif Addysg Uwch

Diploma Addysg Uwch (DipHE)

Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC)

Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)

Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR)

Addysg Gychwynnol Athrawon (ITE).

Am ragor o wybodaeth, ewch i Arian Myfyrwyr Llywodraeth Cymru

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau