Cyfrif Dysgu Personol (CDP) Craidd

Beth ydy Cyfrif Dysgu Personol (CDP/PLA)?

Mae’r Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn cynnig cymorth ar draws Cymru ar gyfer pobl gymwys i ennill sgiliau uwch eu lefel a fydd yn galluogi’r unigolion hyn i gyrchu ystod ehangach o swyddi a/neu gyflogaeth uwch ei lefel.

Nod sylfaenol rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ydy galluogi pobl i uwchsgilio ac ail-sgilio yn y sectorau â blaenoriaeth, i wella eu gyrfa a’u darpar enillion.

Ydw i’n gymwys ar gyfer y Cyfrif Dysgu Personol ?

Profir cymhwyster ar adeg gwneud y cais. Mae’r unigolion canlynol yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

Rhaid i unigolion:

  • Fod yn byw yng  Nghymru
  • Bod yn awyddus i ennill sgiliau/cymwysterau yn y sectorau â blaenoriaeth
  • Bod yn 19 oed neu drosodd (profir hyn ar ddechrau’r cwrs)

Hefyd, rhaid i unigolion ddiwallu o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • Cyflogedig (yn cynnwys hunan-gyflogedig) yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £30,596*
  • Gweithwyr ar gontractau dim oriau*
  • Staff asiantaeth*
  • Mewn perygl o gael eu diswyddo*
  • Troseddwyr  ryddheir am y dydd*
  • Gofalwyr llawn amser (â thâl a rhai di-dâl)*

Ni fydd unigolion yn gymwys ar yr adeg gwneud cais os ydyn nhw’n un o’r canlynol:

  • O dan 19 oed
  • Mynychu ysgol neu goleg llawn amser fel disgybl neu fyfyriwr
  • Mewn addysg uwch llawn amser
  • Yn mynychu Dysgu yn Seiliedig ar Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru
  • Gwladolyn tramor anghymwys
  • Yn derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg
  • Di-waith h.y. heb gontract cyflogaeth (oni bai eu bod yn diwallu un o’r meini prawf cymeradwy)

Fel rhan o’ch cais am arian, gofynnir i chi ddarparu dogfennaeth adnabod(ID) ategol yn dystiolaeth o’ch cymhwyster. Bydd hyn yn cynnwys:Os yn gyflogedig: 3x slip cyflog y 3 mis diwethaf. (Bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm yn disgyn o dan y trothwy)Os yn hunan-gyflogedig, tystiolaeth o rif UTR a HEFYD tystiolaeth o incwm y 3 mis diwethaf (e.e. cyfrifon/ anfonebau banc), (bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm o dan y trothwy).Os mewn perygl o gael eu diswyddo: Llythyr gan eich cyflogwr bod eich swydd mewn perygl.Os yn staff asiantaeth: 3x slip talu y 3 mis diwethaf (os yn bosibl – os na allwch eu cynnig, trafodwch gyda’r tîm pan fyddwn yn cysylltu â chi ar ôl cyflwyno’ch cynllun hyfforddi)

Os yn ofalwr: Tystiolaeth o daliad lwfans gofalwyr ar gyfer y 3 mis diwethaf NEU lythyr gan ymgynghorydd gofal yn cadarnhau mai gofalwr ydych chi.

Sylwer, mai dim ond 90 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’ch Cynllun Hyfforddi sydd gennych i gwblhau eich cais am arian, ar gyfer cymeradwyo’ch cais ac i gael eich ymrestru ar eich dewis gwrs. Os bydd eich cais yn hwyr, efallai na fyddwch yn gallu symud ymlaen gyda’ch cais cyfredol ac y byddwch angen cychwyn ar gais newydd am arian.


Cyrsiau sydd ar gael drwy PLA Craidd

Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael drwy ariannu Cyfrif Dysgu Personol Craidd isod. I ddechrau eich cais ariannu Cyfrif Dysgu Personol Craidd, cwblhewch eich Cynllun Hyfforddi yma. Os oes gennych ddiddordeb mewn mwy nag un cwrs, siaradwch ag aelod o’r tîm i gwblhau eich dadansoddiad o anghenion hyfforddi.

Cyrsiau Sgiliau Cyfrifiadura

Arbenigwr Microsoft Office (MOS) – Word
Mewn partneriaeth â Prodigy Learning
Arbenigwr Microsoft Office (MOS) – Excel
Mewn partneriaeth â Prodigy Learning
Arbenigwr Microsoft Office (MOS) – PowerPoint
Mewn partneriaeth â Prodigy Learning
Arbenigwr Microsoft Office (MOS) – Outlook
Mewn partneriaeth â Prodigy Learning

Cyrsiau Adeiladu

Diploma NVQ Lefel 6 City & Guilds mewn Rheoli Safle Adeiladu (Adeiladu)
Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch
Mewn partneriaeth â PCR Global
Rheolwr Safle (SMSTS)
Mewn partneriaeth â PCR Global
Cwrs Gloywi Rheolwr Safle (SMSTS)
Mewn partneriaeth â PCR Global
Goruchwyliwr Safle (SSSTS)
Mewn partneriaeth â PCR Global
Cwrs Gloywi Goruchwyliwr Safle (SSSTS)
Mewn partneriaeth â PCR Global
Hyfforddiant Cydlynwyr Gwaith Dros Dro (TWC)
Mewn partneriaeth â PCR Global
Hyfforddiant Goruchwyliwr Gwaith Dros Dro (TWS)
Mewn partneriaeth â PCR Global

Cyrsiau Trydanol

Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol BS 7671:2018 (18fed Argraffiad)
Mewn partneriaeth â Trydan Training
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Archwiliadau Cychwynnol a Chyfnodol a Phrofi Gosodiadau Trydanol
Mewn partneriaeth â Trydan Training
Dyfarniad Lefel 3 2377-77 City & Guilds mewn Archwilio a Phrofi Offer Trydanol (PAT) sydd mewn Defnydd
Mewn partneriaeth â Trydan Training
Diploma Lefel 2 2365 City & Guilds mewn Gosodiadau Trydanol
Mewn partneriaeth â Trydan Training
Diploma Lefel 3 2365 City & Guilds mewn Gosodiadau Trydanol
Mewn partneriaeth â Trydan Training
Dyfarniad Lefel 3 EAL mewn Archwilio, Profi, Ardystio ac Adrodd Gosodiadau Trydanol
Mewn partneriaeth â CTG
BS7671 18fed Argraffiad o’r Rheoliadau Weirio
Mewn partneriaeth â CTG
BS7671 18fed Argraffiad o’r Rheoliadau Weirio Diwygiad 2
Mewn partneriaeth â CTG

Cyrsiau Diogelwch Tân

Tystysgrif Lefel 2 mewn Gosodiadau Chwistrellwyr Tân (Gweithiwr Profiadol)
Mewn partneriaeth â Site Audit Services
Tystysgrif Lefel 2 mewn Gosodiadau Chwistrellwyr Tân (Gweithiwr Amhrofiadol)
Mewn partneriaeth â Site Audit Services
Dyfarniad Lefel 3 mewn Diogelwch Tân
Mewn partneriaeth â Site Audit Services
Diploma Lefel 4 mewn Diogelwch Tân
Mewn partneriaeth â Site Audit Services

Cyrsiau Iechyd a Diogelwch

Cymorth Cyntaf Brys (EFA)
Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch
Mewn partneriaeth â PCR Global
IOSH Rheoli’n Ddiogel
Mewn partneriaeth â Ligtas
IOSH Gweithio’n Ddiogel
Mewn partneriaeth â Ligtas
Tystysgrif Lefel 3 mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
Mewn partneriaeth â Site Audit Services
NEBOSH Adeiladu
Mewn partneriaeth â Ligtas
NEBOSH Cyffredinol
Mewn partneriaeth â Ligtas

Cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Craidd

Cyrsiau Lletygarwch

Dyfarniad Lefel 2 BIIAB ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Trwydded Alcohol)
Diogelwch Bwyd Lefel 2
Diogelwch Bwyd Lefel 3

Cyrsiau Systemau Rheoli Ansawdd ac Archwilio ISO

CQI IRCA ISO 9001:2015 Sylfaen
Mewn partneriaeth ag Alcumus
CQI IRCA ISO 9001:2015 Archwiliwr Mewnol
Mewn partneriaeth ag Alcumus
CQI IRCA ISO 9001:2015 Archwiliwr Arweiniol
Mewn partneriaeth ag Alcumus
CQI IRCA ISO 27001:2013 Sylfaen
Mewn partneriaeth ag Alcumus
CQI IRCA ISO 27001:2013 Archwiliwr Mewnol
Mewn partneriaeth ag Alcumus
CQI IRCA ISO 27001:2013 Archwiliwr Arweiniol
Mewn partneriaeth ag Alcumus

Cyrsiau Hyfforddiant LGV (HGV)

LGV C (Dosbarth 2) gyda TCP i yrwyr cychwynnol – Cwrs Safonol neu Byr
Mewn partneriaeth â Big Wheelers
LGV C (Dosbarth 2) gyda hyfforddiant cyfnodol TCP i yrwyr – Cwrs Safonol neu Byr
Mewn partneriaeth â Big Wheelers
LGV C+E (Dosbarth 1) gyda TCP i yrwyr cychwynnol – Cwrs Estynedig neu Hir
Mewn partneriaeth â Big Wheelers
LGV C+E (Dosbarth 1) gyda hyfforddiant cyfnodol TCP i yrwyr – Cwrs Estynedig neu Hir
Mewn partneriaeth â Big Wheelers
LGV C1 (3.5t i 7.5t) gyda TCP i yrwyr cychwynnol – Cwrs Safonol neu Byr
Mewn partneriaeth â Big Wheelers
LGV C1+E (3.5t i 7.5t a thynnu trelar) gyda TCP i yrwyr cychwynnol – Cwrs Estynedig neu Hir
Mewn partneriaeth â Big Wheelers
LGV C+E (Dosbarth 1) – Cwrs Uwchraddio Safonol neu Byr
Mewn partneriaeth â Big Wheelers
LGV C1+E (3.5t i 7.5t gyda threlar) – Cwrs Uwchraddio Safonol neu Byr
Mewn partneriaeth â Big Wheelers
LGV C1+E (3.5t i 7.5t gyda threlar) – Cwrs Uwchraddio Safonol neu Byr Hawliau a Gaffaelwyd
Mewn partneriaeth â Big Wheelers

Mae ceisiadau ariannu LGV ar gau dros dro oherwydd galw uchel – cadwch lygad ar y dudalen hon i weld diweddariadau pellach

Cyrsiau Peirianneg Modurol

Dyfarniad Lefel 2 IMI mewn Gweithgareddau Cynnal a Chadw Cerbydau Trydan/Hybrid (603/1466/7)
Dyfarniad IMI Lefel 3 mewn Atgyweirio ac Amnewid Systemau Cerbydau Trydan/Hybrid (603/1468/0)

Cyrsiau Offer

Cloddiwr 360 (Uwch ben ac o dan 10T)
Mewn partneriaeth â’r Construction Hub Academy
Lori Godi Tipio Cefn Cymalog
Mewn partneriaeth â’r Construction Hub Academy
Tarw Dur
Mewn partneriaeth â’r Construction Hub Academy
Lori Godi Tipio Blaen
Mewn partneriaeth â’r Construction Hub Academy
Rhaw Lwytho
Mewn partneriaeth â’r Construction Hub Academy
Rholiwr Gyrru
Mewn partneriaeth â’r Construction Hub Academy
Gweithredwr Gwaith Stryd
Mewn partneriaeth â’r Construction Hub Academy
Goruchwyliwr Gwaith Stryd
Mewn partneriaeth â’r Construction Hub Academy
Triniwr Telesgopig
Mewn partneriaeth â’r Construction Hub Academy

Cyrsiau Rheoli Prosiect

Rheoli Prosiect Ystwyth – Sylfaen yn unig
Mewn partneriaeth â NILC
Rheoli Prosiect Ystwyth – Sylfaen ac Ymarferydd
Mewn partneriaeth â NILC
PRINCE2 – Sylfaen yn unig
Mewn partneriaeth â NILC
PRINCE2 – Sylfaen ac Ymarferydd
Mewn partneriaeth â NILC


Sut ydw i’n Gwneud Cais?

Dewis eich cwrs

Gyda’n rhestr helaeth o’r cyrsiau sydd ar gael o dan y Cyfrif Dysgu Personol, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’ch cwrs perffaith.

Sylwch, mai dim ond un cwrs ar y tro y gallwch ei gyrchu drwy ddefnyddio cyllid CDP. Os ydych eisoes wrthi’n prosesu’ch cais, yn aros i’ch cwrs gychwyn neu eisoes ar gwrs a ariennir, cwblhewch y cwrs hwn cyn gwneud cais am gyllid CDP am gwrs arall.

Cynllun Hyfforddi

Cychwynnwch ar eich cais am Gyfrif Dysgu Personol drwy gwblhau a chyflwyno Cynllun Hyfforddi ar-lein yma.

Cyflwynwch un Cynllun Hyfforddi yn unig. Os dymunwch wneud cais am nifer o gyrsiau, dim ond un Cynllun Hyfforddi dylech chi ei gyflwyno ar gyfer eich cwrs cychwynnol. Ar ôl i chi sicrhau eich cyllid a chwblhau’ch cwrs, gallwch gyflwyno ail Gynllun Hyfforddi ar gyfer eich cwrs nesaf.

Gwiriwch eich e-bost

Ar ôl i ni adolygu’ch Cynllun Hyfforddi, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi drwy e-bost i ofyn am ddogfennau ychwanegol i gwblhau eich cais am gyllid.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau a dychwelyd y dogfennau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn peidio â’ch siomi. Sylwch, ni ymatebir i unrhyw gyflwyniad anghymwys.

Cychwyn eich cwrs

Ar ôl i chi ddychwelyd eich dogfennau ychwanegol a bod y cyllid wedi’i gymeradwyo, fe weithiwn gyda chi i sicrhau’r dyddiad cychwyn fyddai orau i chi.

Sylwer, os cynhelir eich cwrs drwy bartner hyfforddi, nhw fydd yn cwblhau’r cam hwn gyda chi. Gellir cychwyn unrhyw cwrs dan arweiniad personol yn syth.


Heb allu dod o hyd i gwrs o’ch dewis? Gwiriwch ein cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol Gwyrdd  a’n cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol Digidol. Os nad yw eich dewis gwrs ar gael drwy’r Cyfrif Dysgu Personol, neu os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cyllid, siaradwch ag aelod o’r tîm, ynglyn â ffioedd ein cwrs masnachol neu ewch i’n tudalen Cyrsiau Masnachol.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau