Pam astudio gyda ni?
Byddwch yn cael eich addysgu ym moethusrwydd ein Campws Nantgarw gwerth £40 miliwn, sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n cynnwys y cyfarpar diweddaraf
Mae Rhaglen Safon Uwch Coleg y Cymoedd yn cynnig dewis o 20 pwnc Uwch Gyfrannol / Safon Uwch a 7 opsiwn Tystysgrif/Diploma Lefel 3.
Mae ein tiwtoriaid, sy’n arbenigwyr yn eu pwnc, yn ymfalchïo mewn darparu addysg a chyfleoedd dysgu o’r safon uchaf.
Rhesymau Dros Ein Dewis Ni
Dysgwyr – Rhesymau Dros Ein Dewis Ni:
• Dewis eang o opsiynau UG/Safon Uwch a Thystysgrif/Diploma Lefel 3 mewn 27 o bynciau • Rhyddid i ddod yn ddysgwr annibynnol • Pont ddelfrydol rhwng yr ysgol ac Addysg Uwch • Ehangu eich gorwelion a chwrdd â phobl newydd • Adeilad modern a chyfoes gyda chyfleusterau gwych • System diwtorial/cefnogi gynhwysfawr • Gweithgareddau allgyrsiol drwy raglen gyfoethogi HWB. |
Rhieni – Rhesymau Dros Ein Dewis Ni:
• Canlyniadau Safon Uwch rhagorol • Tiwtoriaid pwnc sy’n ymfalchïo mewn darparu addysg a chyfleoedd dysgu o’r safon uchaf • Datblygu a meithrin sgiliau bywyd pwysig y gellir eu trosglwyddo i’r brifysgol a chyflogaeth • Hanes profedig o lwyddiant gyda cheisiadau i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a ‘Grŵp Russell’ • System diwtorial/cefnogi gynhwysfawr • Cyswllt personol â’r holl diwtoriaid a darlithwyr • Amgylchedd a diwylliant dysgu oedolion ar Gampws Nantgarw sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi’i gyfarparu’n llawn |
Arddangosfa Canlyniadau 2022
Mae’r coleg, sy’n gwasanaethu dysgwyr ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, wedi cael graddau uchel ar draws ei gyrsiau academaidd a galwedigaethol, gyda’i Ganolfan Safon Uwch yn Nantgarw yn cyflawni cyfradd lwyddo gyffredinol o 99.6% yn 2022. Cafwyd cyfradd lwyddo o 100% mewn 20 allan o 22 pwnc gan gynnwys pob pwnc STEM, Saesneg, Hanes a Daearyddiaeth.
Mae nifer y dysgwyr sy’n cyflawni graddau A*-C i fyny 28% o gymharu â 2019 – y tro diwethaf roedd canlyniadau’n seiliedig ar arholiadau allanol yn hytrach na graddau a bennwyd gan y ganolfan, fel yr oeddent yn ystod y pandemig. Mae nifer y dysgwyr sy’n ennill y graddau A* ac A yn U2 hefyd wedi cynyddu 22%………. Darllenwch y stori lawn
Ysgol Flaenorol: Ysgol Gyfun Llanhari
Cwrs (Cyrsiau) a gwblhawyd:
Llenyddiaeth Saesneg, Drama ac Astudiaethau Crefyddol
Yn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Eidaleg a Japaneeg
Gall y pontio rhwng ysgol a choleg fod yn brofiad pryderus ond mae ein tîm arbenigol o Diwtoriaid Personol wrth law bob cam o’ch taith yn y coleg. Byddwch yn derbyn pecyn cymorth wedi’i gydlynu gan eich Tiwtor Personol a fydd yn eich helpu gyda phopeth o ymholiadau am LCD i reoli amser a sgiliau adolygu. Cynhelir cyfarfodydd cynnydd bob blwyddyn a gwahoddir eich rhieni i’r cyfarfodydd hyn.
Cewch eich cefnogi’n llawn yn ystod eich amser yn y Ganolfan Safon Uwch ac fe’ch arweinir trwy system diwtorialau bersonol a chynhwysfawr, sy’n cynnwys cefnogaeth benodol gydag Addysg Uwch e.e. hyfforddiant, dewisiadau a cheisiadau gyrfa ac ysgrifennu datganiadau personol a CV.
Mae’r rhaglen Safon Uwch yn eich galluogi i astudio tair Safon UG neu BTEC ynghyd â Bagloriaeth Cymru (Uwch) yn eich blwyddyn UG. Yn dilyn canlyniadau UG llwyddiannus, byddwch wedyn yn symud ymlaen i astudio ar gyfer Lefel U2, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru. Bydd opsiynau’n cael eu trafod yn ystod eich proses ymgeisio.
Mae cynorthwyo a chefnogi ein dysgwyr i wireddu eu potensial wrth wraidd yr hyn a wnawn yng Nghanolfan Safon Uwch Coleg y Cymoedd. Er bod hyn yn cael ei adlewyrchu ar draws ein cwricwlwm ac yn ein dull o ymdrin â’n holl fyfyrwyr, rydym hefyd yn falch o’n llwyddiant yn cynorthwyo’n dysgwyr mwyaf abl yn y broses o wneud eu cais i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion ’Russell Group’/’Sutton 30’. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn symud ymlaen i astudio yng Nghaergrawnt, Rhydychen, Durham, King’s College London, Bryste, London School of Economics a lliaws o brifysgolion gorau’r DU.
Darperir ein rhaglen Ymestyn a Herio ar y cyd â chynllun MAT Rhondda Cynon Taf ac mae’n
• Paratoi dysgwyr ar gyfer y broses ymgeisio UCAS, profion dawn a chyfweliadau.
• Cynnig cysylltiadau cryfion gyda Rhaglenni Ysgol Haf ‘Oxford UNIQ’ a ‘Sutton Trust’.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod llwyddiant ein rhaglen Ymestyn a Herio ac fe’n gwahoddodd i letya Canolfan Seren Merthyr a RhCT. Mae Canolfan Seren yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a staff o Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt i gynnig rhaglen benodol o weithgareddau ysgolheigaidd wedi’u hanelu at wella profiadau academaidd dysgwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer gwneud cais ar gyfer prifysgol/cwrs gradd cystadleuol.
Mae sawl mantais o fod yn aelod o’r Grŵp Ymestyn a Herio. Byddwch yn cael cynnig dewis dilyn 4 pwnc UG heb raglen Bagloriaeth Cymru NEU 3 phwnc UG gyda rhaglen Bagloriaeth Cymru, yn unol â’ch diddordebau, eich anghenion a’ch dyheadau. Yn ogystal, byddwn yn anelu at ddatblygu eich sgiliau academaidd ac yn eich annog i anelu’n uchel wrth ddewis prifysgolion.
Hefyd, os byddwch yn ennill 3 A* ynghyd â graddau A yn bennaf yn eich TGAU, fe’ch gwahoddir i ymuno â Chanolfan Seren RhCT/Merthyr, y mae Coleg y Cymoedd Nantgarw yn parhau i’w lletya. Byddwch yn mynychu sesiynau ‘dosbarth meistr’ pwnc-benodol misol a gyflwynir i’r 120 myfyriwr Blwyddyn 12 mwyaf galluog yn RhCT a Merthyr.
Uchafbwyntiau:
• cefnogaeth a chyngor un-i-un gyda’ch cais UCAS, gan gynnwys sut i ysgrifennu datganiad personol effeithiol wrth wneud cais i brifysgol gystadleuol
• prawf dawn a pharatoi ar gyfer cyfweliadau gyda gweithwyr proffesiynol academaidd
• cyfle i gymryd rhan yn y cynllun ‘Brilliant Club’, sy’n rhoi profiad i ddysgwyr o sesiynau tiwtorial ac ymchwil israddedig, ac sy’n cynnwys ymweliadau â phrifysgolion y ‘Russell Group’
• y cyfle i ymuno â’r cwrs ‘Medi Prep’ a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i’r rhai sy’n ystyried gyrfa mewn Meddygaeth, Deintyddiaeth neu’r Gwyddorau Biofeddygol
• cefnogaeth i ymgeisio am leoliadau ‘Nuffield’ ar gyfer y rhai sy’n astudio pynciau STEM
• mynychu cynhadledd flynyddol Rhydychen a Chaergrawnt yn Stadiwm Liberty, Abertawe
• cefnogaeth unigol i ymgeisio am raglenni Ysgol Haf a / neu gynlluniau cysgodi yn Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion blaenllaw y ‘Russell Group’
• cyngor a chefnogaeth ar sut i gael profiad gwaith gwerth chweil mewn meysydd perthnasol
• anogaeth i gystadlu mewn cystadlaethau traethawd perthnasol yn eich maes astudio
Mae cynorthwyo a chefnogi ein dysgwyr i wireddu eu potensial wrth wraidd yr hyn a wnawn yng Nghanolfan Safon Uwch Coleg y Cymoedd. Er bod hyn yn cael ei adlewyrchu ar draws ein cwricwlwm ac yn ein dull o ymdrin â’n holl fyfyrwyr, rydym hefyd yn falch o’n llwyddiant yn cynorthwyo’n dysgwyr mwyaf abl yn y broses o wneud eu cais i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion ’Russell Group’/’Sutton 30’. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn symud ymlaen i astudio yng Nghaergrawnt, Rhydychen, Durham, King’s College London, Bryste, London School of Economics a lliaws o brifysgolion gorau’r DU.
Darperir ein Rhaglen Mwy Galluog a Thalentog ar y cyd â chynllun MAT Rhondda Cynon Taf ac mae’n
• Paratoi dysgwyr ar gyfer y broses ymgeisio UCAS, profion dawn a chyfweliadau.
• Cynnig cysylltiadau cryfion gyda Rhaglenni Ysgol Haf ‘Oxford UNIQ’ a ‘Sutton Trust’.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod llwyddiant ein Rhaglen Mwy Galluog a Thalentog ac fe’n gwahoddodd i letya Canolfan Seren Merthyr a RhCT. Mae Canolfan Seren yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a staff o Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt i gynnig rhaglen benodol o weithgareddau ysgolheigaidd wedi’u hanelu at wella profiadau academaidd dysgwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer gwneud cais ar gyfer prifysgol/cwrs gradd cystadleuol.
Mae sawl mantais o fod yn aelod o’r Rhaglen Mwy Galluog a Thalentog. Byddwch yn cael cynnig dewis dilyn 4 pwnc UG heb raglen Bagloriaeth Cymru NEU 3 phwnc UG gyda rhaglen Bagloriaeth Cymru, yn unol â’ch diddordebau, eich anghenion a’ch dyheadau. Yn ogystal, byddwn yn anelu at ddatblygu eich sgiliau academaidd ac yn eich annog i anelu’n uchel wrth ddewis prifysgolion.