Ymhlith y pynciau UG mae: materion a thueddiadau cymdeithasol; strwythurau teuluol; gwerthoedd traddodiadol a modern; cyfeillgarwch/perthnasoedd; tueddiadau ieuenctid; materion a hunaniaeth bersonol; cyfleoedd addysgol a chyflogaeth; diwylliant gwleidyddol, deallusol ac artistig; diwylliant a threftadaeth ranbarthol yn Ffrainc; gwledydd a chymunedau sy'n siarad Ffrangeg a llenyddiaeth, celf, ffilm a cherddoriaeth yn y byd sy'n siarad Ffrangeg.
Astudiaethau A2: Materion a thueddiadau cymdeithasol; ymfudo ac integreiddio; hunaniaeth ddiwylliannol ac ymyleiddio; cyfoethogi diwylliannol a dathlu gwahaniaeth; gwahaniaethu ac amrywiaeth; diwylliant gwleidyddol, deallusol ac artistig Ffrainc 1940-1950: Y Feddiannaeth a’r blynyddoedd ar ôl y rhyfel. Astudir ffilm Ffrangeg ar gyfer UG a bydd testun llenyddol Ffrangeg yn cael ei astudio yn U2.
Bydd angen 5 TGAU Graddau A*- C gan gynnwys Iaith Saesneg a gradd B neu uwch mewn Ffrangeg
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu drwy arholiad llafar ac arholiad ar bapur.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch ddewis i astudio Ffrangeg ar Lefel Addysg Uwch, neu ddewis mynd i ystod eang o waith gan gynnwys y Gwasanaeth Sifil, y cyfryngau, gwasanaethau iechyd a gofal, maes cyfieithu, gwleidyddiaeth neu’r Heddlu.
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.