Ein staff arbenigol sy’n addysgu ar bob un o’n cyrsiau trin gwallt a harddwch, staff sy’n fedrus iawn ac yn meddu ar brofiad yn y sector. Mae llawer ohonynt wedi berchen ar eu busnes eu hunain yn y gorffennol. Wrth weithio gyda staff arbenigol, cewch brofi ethos ac agwedd broffesiynol.
Gyda phwyslais pendant ar ennill sgiliau ymarferol, creadigol a rhedeg busnes, y sgiliau fydd eu hangen arnoch i weithio mewn sba neu salon, bydd ein cyrsiau yn eich paratoi ar gyfer swydd yn y diwydiant neu ystyried sefydlu eich busnes eich hun. I wella eich sgiliau ymhellach, gyda’n cyrsiau llawn amser bydd disgwyl ichi astudio Rhifedd a Llythrennedd ar lefel y cwrs, sy’n hanfodol er mwyn eich helpu i gyflawni eich potensial mewn gyrfa o’ch dewis.
Ar bob campws mae salon llawn o offer o safon y diwydiant. Mae ein salonau ar agor i’r cyhoedd a hynny’n rhoi cyfle ichi weithio mewn salon go iawn.
Mae’r cyrsiau’n ymdrin â Thriniaethau i’r Corff: Micro Sgraffinio’r Croen, Codi a thonio’r Croen (heb fod yn llawdriniaeth), Therapïau ar yr Wyneb ,Tylino’r Corff, Cwyro, Gwasanaethau Gwallt, Codi’r Gwallt a Steilio Gwallt Priodferch, Technegau Permio a Lliwio, Technoleg Ewinedd, popeth sydd ei angen arnoch i wella’ch cyflogadwyedd yn y maes cyffrous hwn sy’n datblygu’n gyflym.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR