Lefel 3 mewn Barbro

Mae Tystysgrif Lefel 3 VTCT mewn Gwaith Barbwr (QCF) yn gymhwyster a luniwyd yn benodol i ddatblygu’ch sgiliau ymarferol i lefel uwch drwy amrywiaeth o dechnegau yn yr unedau canlynol; trin gwallt dynion yn greadigol a’r gwaith arbenigol cymhleth o dorri blew wyneb.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn sail i’r cymhwyster hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn am fonitro iechyd a diogelwch wrth weithio yn y diwydiant gwaith barbwr. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sgiliau ymarferol y byddwch yn eu dysgu drwy gydol y cwrs hwn. Pwrpas y cymhwyster hwn ydy datblygu’ch sgiliau ymarferol i lefel uchel o allu galwedigaethol i’ch galluogi i gynnal eich gwasanaethau yn eich salon eich hun. Mae cyfanswm o 3 uned; Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon; Torri gwallt dynion i greu steiliau gwahanol; torri blew wyneb i greu steiliau gwahanol.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen i chi gwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor personol. Efallai bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.


Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Gwaith Barbwr. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgyfarwyddo cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn.

Asesiad

Defnyddir ystod o ddulliau i asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau e-bortffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a holi ar lafar ac arholiadau ar-lein.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallech symud ymlaen i gymwysterau sgiliau sector eraill.

Nodiadau Pellach

Mae gofyn i chi gael Gwisg Salon, cit cyfarpar a thalu ffioedd salon ar gyfer y cwrs hwn.

Trafodir yr amcan-gostau, manylion archebu/talu a darpar geisiadau am gymorth /cefnogaeth ariannol mewn cyfweliad a’u cadarnhau ar ôl derbyn dyfynbrisiau gan gyflenwyr.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Rhan Amser Evening
Dyddiad:07/09/2026
Dyddiau:Monday
Amser:17:30 - 20:30
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:7BE305NA
Ffioedd
Registration Fee: £108
Tuition Fee: £249

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd