Bydd y dysgwr yn gallu cael mynediad i gyfleoedd i ddatblygu a chaffael ystod o sgiliau galwedigaethol, gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn perfformio ystod o wasanaethau proffesiynol megis:
• electrotherapi i’r wyneb a’r corff er mwyn cael canlyniadau therapiwtig a gwelliant • tylino’r corff • unedau ychwanegol perthnasol i’r diwydiant O fewn y cymhwyster hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn ac ymarfer gweithio ym maes y diwydiant harddwch: iechyd a diogelwch, gofalu am y cleient a chyfathrebu a chyfrannu at redeg busnes therapi harddwch yn effeithiol. Byddwch hefyd yn datblygu sail gwybodaeth a dealltwriaeth o’r anatomi a ffisioleg sy’n berthnasol i’r sgiliau ymarferol a ddysgwyd yn ystod y cwrs.
5 TGAU gradd C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf) a Diploma Lefel 2 mewn Harddwch. Coleg y Cymoedd sydd am symud ymlaen i gwrs arall, bydd angen i chi gwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Harddwch yn llwyddiannus.
Defnyddir ystod o ddulliau i asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol a phortffolio Sgiliau Hanfodol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i feysydd amrywiol a niferus y dwydiant iechyd a harddwch, agor eich busnes eich hun neu symuid ymlaen i raglen lefel 4.
Mae yna asesiad sgiliau ymarferol fel rhan o’r broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Mae gofyn i chi gael Gwisg Salon, cit cyfarpar a thalu ffioedd salon ar gyfer y cwrs hwn.
Trafodir amcan-gostau, manylion archebu/talu a darpar geisiadau am gymorth / cefnogaeth ariannol mewn cyfweliad a’u cadarnhau ar ôl derbyn dyfynbrisiau gan gyflenwyr.







