Mae’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn un o’r diwydiannau mwyaf boddhaus a chyffrous yn y byd. Mae pobl am fynd i leoedd egsotig, mynd ar wyliau teuluol neu gynllunio i fynd i ffwrdd gyda phartneriaid a ffrindiau. Nid yw’n syndod bod y diwydiant teithio yn tyfu mor gyflym. Os ydych am fod yn rhan o’r diwydiant bywiog hwn, bydd gennych ddewis eang o yrfaoedd.
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau teithio yng Ngholeg y Cymoedd, gan ddefnyddio cyfleusterau gwych. Mae ein cyrsiau’n ymarferol iawn a chewch gyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau a fydd yn agor lliaws o yrfaoedd ichi. Mae llawer o’n dysgwyr wedi cael gwaith mewn meysydd awyr ac fel aelodau o Griw Gweini Mewn Awyren gyda chwmnïau hedfan mawr fel ‘British Airways’, ‘Easyjet’ a ‘Ryanair’ yn ogystal â fel cynrychiolwyr cwmnïau gwyliau adnabyddus.
Caiff dysgwyr gydag ysfa i deithio y cyfle i gael profiad uniongyrchol o’r gwaith gweini mewn awyren oherwydd ffug gaban a hyrwyddir gan y Coleg gan ei fod yn cynnig profiad hynod o debyg i fod mewn caban awyren. Bydd ein caban teithio ar gampws Ystrad Mynach yn rhoi profiad realistig o weithio ar awyren i’r dysgwyr sy’n ymuno â’r Cwrs Teithio a Gwaith Criw Gweini mewn Awyren. Mae’r caban awyren ffug yn cefnogi elfen ymarferol y cwrs, yn herio dysgwyr i ymdrin â’r sefyllfaoedd go iawn a allai godi ar uchder o 35,000 troedfedd. Gall dysgwyr ddefnyddio chwarae rôl i ddysgu am iechyd a diogelwch teithwyr a sut i ymateb yn briodol mewn argyfwng.
Mae ein cwrs Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o Reoli Twristiaeth, Cynllunio Busnes a Marchnata ynghyd â gwaith cynrychiolwyr gwyliau a chynrychiolwyr plant. Bydd y rhai sy’n dymuno ymuno â Lefel 2 yn dysgu pethau sylfaenol twristiaeth a busnes twristiaeth i’w galluogi i symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 neu i gyflogaeth.