Cyfrif Dysgu Personol (CDP) Digidol

Beth ydy Cyfrif Dysgu Personol (CDP/PLA)?

Mae’r Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn cynnig cymorth ar draws Cymru ar gyfer pobl gymwys i ennill sgiliau uwch eu lefel a fydd yn galluogi’r unigolion hyn i gyrchu ystod ehangach o swyddi a/neu gyflogaeth uwch ei lefel.

Nod sylfaenol rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ydy galluogi pobl i uwchsgilio ac ail-sgilio yn y sectorau â blaenoriaeth, i wella eu gyrfa a’u darpar enillion.

Ydw i’n gymwys ar gyfer y Cyfrif Dysgu Personol ?

Profir cymhwyster ar adeg gwneud y cais. Mae’r unigolion canlynol yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

Rhaid i unigolion:

• Fod yn byw yng Nghymru
• Bod yn awyddus i ennill sgiliau/cymwysterau yn y sectorau â blaenoriaeth
• Bod yn 19 oed neu drosodd (profir hyn ar ddechrau’r cwrs)
Hefyd, rhaid i unigolion ddiwallu o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

• Cyflogedig (yn cynnwys hunan-gyflogedig)
• Gweithwyr ar gontractau dim oriau*
• Staff asiantaeth*
• Mewn perygl o gael eu diswyddo*
• Troseddwyr ryddheir am y dydd*
• Gofalwyr llawn amser (â thâl a rhai di-dâl)*
Ni fydd unigolion yn gymwys ar yr adeg gwneud cais os ydyn nhw’n un o’r canlynol:

• O dan 19 oed
• Mynychu ysgol neu goleg llawn amser fel disgybl neu fyfyriwr
• Mewn addysg uwch llawn amser
• Yn mynychu Dysgu yn Seiliedig ar Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru
• Gwladolyn tramor anghymwys
• Yn derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg
• Di-waith h.y. heb gontract cyflogaeth (oni bai eu bod yn diwallu un o’r meini prawf cymeradwy)


Fel rhan o’ch cais am arian, gofynnir i chi ddarparu dogfennaeth adnabod(ID) ategol yn dystiolaeth o’ch cymhwyster. Bydd hyn yn cynnwys:
Os yn gyflogedig: 3x slip cyflog y 3 mis diwethaf. (Bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm yn disgyn o dan y trothwy)
Os yn hunan-gyflogedig, tystiolaeth o rif UTR a HEFYD tystiolaeth o incwm y 3 mis diwethaf (e.e. cyfrifon/ anfonebau banc), (bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm o dan y trothwy).
Os mewn perygl o gael eu diswyddo: Llythyr gan eich cyflogwr bod eich swydd mewn perygl.
Os yn staff asiantaeth: 3x slip talu y 3 mis diwethaf (os yn bosibl – os na allwch eu cynnig, trafodwch gyda’r tîm pan fyddwn yn cysylltu â chi ar ôl cyflwyno’ch cynllun hyfforddi)
Os yn ofalwr: Tystiolaeth o daliad lwfans gofalwyr ar gyfer y 3 mis diwethaf NEU lythyr gan ymgynghorydd gofal yn cadarnhau mai gofalwr ydych chi.


Sylwer, mai dim ond 90 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’ch Cynllun Hyfforddi sydd gennych i gwblhau eich cais am arian, ar gyfer cymeradwyo’ch cais ac i gael eich ymrestru ar eich dewis gwrs. Os bydd eich cais yn hwyr, efallai na fyddwch yn gallu symud ymlaen gyda’ch cais cyfredol ac y byddwch angen cychwyn ar gais newydd am arian.


Cyrsiau sydd ar gael drwy PLA Digidol

Cisco: Implementing and Administering Cisco Solutions (Instructor & self led available)
In partnership with NILC
CompTIA ITF+ (Instructor & self led available)
In partnership with NILC
CompTIA A+ Core 1 & 2 (Instructor & self led available)
In partnership with NILC
CompTIA Network+ (Instructor & self led available)
In partnership with NILC
CompTIA Security+ (Instructor & self led available)
In partnership with NILC
CompTIA Server+ (Instructor & self led available)
In partnership with NILC
CompTIA CySA+ Cyber Security Analyst (Instructor & self led available)
In partnership with NILC
Microsoft Certified: Power BI Data Analyst Associate
In partnership with Iungo Solutions


Sut ydw i’n Gwneud Cais?

Dewis eich cwrs

Gyda’n rhestr helaeth o’r cyrsiau sydd ar gael o dan y Cyfrif Dysgu Personol, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’ch cwrs perffaith.

Sylwch, mai dim ond un cwrs ar y tro y gallwch ei gyrchu drwy ddefnyddio cyllid CDP. Os ydych eisoes wrthi’n prosesu’ch cais, yn aros i’ch cwrs gychwyn neu eisoes ar gwrs a ariennir, cwblhewch y cwrs hwn cyn gwneud cais am gyllid CDP am gwrs arall.

Cynllun Hyfforddi

Cychwynnwch ar eich cais am Gyfrif Dysgu Personol drwy gwblhau a chyflwyno Cynllun Hyfforddi ar-lein yma.

Cyflwynwch un Cynllun Hyfforddi yn unig. Os dymunwch wneud cais am nifer o gyrsiau, dim ond un Cynllun Hyfforddi dylech chi ei gyflwyno ar gyfer eich cwrs cychwynnol. Ar ôl i chi sicrhau eich cyllid a chwblhau’ch cwrs, gallwch gyflwyno ail Gynllun Hyfforddi ar gyfer eich cwrs nesaf.

Gwiriwch eich e-bost

Ar ôl i ni adolygu’ch Cynllun Hyfforddi, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi drwy e-bost i ofyn am ddogfennau ychwanegol i gwblhau eich cais am gyllid.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau a dychwelyd y dogfennau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn peidio â’ch siomi. Sylwch, ni ymatebir i unrhyw gyflwyniad anghymwys.

Cychwyn eich cwrs

Ar ôl i chi ddychwelyd eich dogfennau ychwanegol a bod y cyllid wedi’i gymeradwyo, fe weithiwn gyda chi i sicrhau’r dyddiad cychwyn fyddai orau i chi.

Sylwer, os cynhelir eich cwrs drwy bartner hyfforddi, nhw fydd yn cwblhau’r cam hwn gyda chi. Gellir cychwyn unrhyw cwrs dan arweiniad personol yn syth.


Heb allu dod o hyd i gwrs o’ch dewis? Gwiriwch ein cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol (CDP) Craidd  a’n cyrsiau Gwiriwch ein cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol (CDP) Gwyrdd. Os nad yw eich dewis gwrs ar gael drwy’r Cyfrif Dysgu Personol, neu os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cyllid, siaradwch ag aelod o’r tîm, ynglyn â ffioedd ein cwrs masnachol neu ewch i’n tudalen Cyrsiau Masnachol.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau