Mae gan Goleg y Cymoedd feithrinfeydd dydd ar gampws Nantgarw a Ystrad Mynach.
Mae Meithrinfa Acorns yn cael ei rhedeg yn breifat mewn partneriaeth gyda Choleg y Cymoedd ar Gampws Nantgarw.
Mae gan y feithrinfa sydd â 60 o leoedd ardd fawr gydag ardaloedd chwarae agored a dan do er mwyn sicrhau bod plant yn gallu manteisio ar chwarae yn yr awyr agored, waeth beth fo’r tywydd. Tu mewn, mae digon o le yn yr ystafelloedd chwarae helaeth i’r plant gael mannau tawel, i ddefnyddio’u dychymyg ac i archwilio a chwarae gyda theganau ac offer o’r radd flaenaf i’w hysgogi.
Mae Acorns Nantgarw ar agor rhwng 8am a 6pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, yn gofalu am blant rhwng 6 wythnos a 5 oed. Croeso i chi ymweld â’r feithrinfa ar unrhyw adeg neu ffonio Josie Calderwood, Rheolwraig Lleoliadau ar: (029) 20 382009 am ragor o wybodaeth.
Cyfeiriad y wefan: www.acornsnurseries.co.uk
Ffôn: (029) 20 382009
Mae’r feithrinfa ddydd ar gampws Ystrad Mynach yn darparu adnoddau ar gyfer plant i fyfyrwyr y coleg. Mae gan y feithrinfa amrediad eang o gyfleoedd chwarae a dysgu ar gyfer plant o 10 mis hyd at 5 mlwydd oed.
Caiff darpar ddefnyddwyr eu hannog i roi eu manylion ar ein rhestr aros mor fuan â phosibl ar gyfer y rhai sy’n cychwyn ym mis Medi. Cynigir lle yn ôl y nifer o lefydd gwag sydd ar gael. Mae angen i ddysgwyr wneud cais am gael eu hariannu a dangos prawf o fuddiannau wrth wneud cais am le yn y feithrinfa.
Cynigir lle ar gymorthdal unwaith bydd y cyllido wedi ei gytuno.
Caiff y feithrinfa ddydd ei staffio gan nyrsys cymwysedig sydd wedi eu cofestru o fewn Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC/CSSIW).
Oriau agor – Dydd Llun i Ddydd Gwener – 9.00am – 4.30pm.
Am ragor o wybodaeth am y Feithrinfa Ddydd neu i roi eich enw ar y rhestr aros, cysylltwch â Gail Harris, Rheolwraig y Feithrinfa – 01443 816888/814237.