Mae’r dudalen hon ar gyfer dysgwyr newydd yng Ngholeg y Cymoedd. Gall dysgwr presennol ac sy’n dychwelyd gael help gyda phroblemau ac ymholiadau TG drwy Cymorth TG.
Cam 1
Neges SMS Croeso
Ar ôl i chi gwblhau’r broses gofrestru, byddwch yn derbyn neges destun SMS sy’n cynnwys:
Bydd hyn yn cael ei anfon i’r rhif ffôn symudol a ddarparwyd gennych wrth wneud cais.
Cam 2
Lawrlwytho a gosod yr ap Microsoft Authenticator
Chwiliwch am yr ap ‘Microsoft Authenticator’ naill ai yn Play Store (Android) neu’r App Store (Apple iOS) ar eich ffôn symudol a pwyswch y botwm gosod.
Dilynwch ein cyfarwyddiadau fideo cam wrth gam i osod yr ap Microsoft Authenticator.
Cam 3
Mewngofnodwch i’ch cyfrif coleg
Mewngofnodwch i’ch cyfrif Microsoft 365 coleg am y tro cyntaf gan ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair o gam un.
Rhoddir rhif dilysu dau ddigid i chi ar ddiwedd y broses fewngofnodi. Byddwch hefyd yn derbyn hysbysiad gan ap Microsoft Authenticator ar eich ffôn.
Rhowch y rhif dau ddigid yn yr ap Authenticator i ddilysu’ch mewngofnodi.
Gwyliwch y fideos gosod Authenticator eto os nad ydych chi’n siŵr.
Cam 4
Lawrlwythwch Microsoft Teams
Defnyddir Microsoft Teams i gefnogi eich astudiaethau.
Chwiliwch am yr ap Microsoft Teams yn Play Store (Android) neu App Store (Apple iOS, yna ei osod ar eich ffôn.
Agorwch yr ap Microsoft Teams a mewngofnodwch gan ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair eich cyfrif coleg Microsoft 365. Dilyswch gyda’r ap Microsoft Authenticator os gofynnir i chi.
Cam 5
Lawrlwythwch ap Coleg y Cymoedd
Defnyddir Ap Coleg y Cymoedd i gefnogi eich astudiaethau. Gall ddangos cyhoeddiadau’r campws a chynnwys CymoeddXtra.
Chwiliwch am ap ‘Coleg y Cymoedd’ naill ai yn Play Store (Android) neu’r App Store (Apple iOS) a’i osod ar eich ffôn symudol.
Agorwch ap Coleg y Cymoedd a mewngofnodwch gan ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair eich cyfrif Microsoft 365 coleg. Dilyswch gyda’r ap Microsoft Authenticator os gofynnir i chi.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




