Rydyn ni’n falch iawn bod eich plentyn yn ystyried dod i Goleg y Cymoedd fel eu cam nesaf ar eu taith addysg. Mae dod i’r coleg yn cynnig llawer o gyfleoedd ac mae hefyd yn nodi dechrau bywyd mwy annibynnol ymhlith oedolion eraill.
Yng Ngholeg y Cymoedd, bydd dysgwyr yn cael eu hannog i gyrraedd eu llawn botensial, gan gynyddu eu hyder a rhoi profiadau go iawn iddyn nhw i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer eu cam nesaf pan fyddan nhw’n gadael y coleg.
Mae ein dysgwyr yn astudio mewn cyfleusterau rhagorol, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a’u haddysgu gan staff arbenigol. Byddwn yn eu cefnogi i ennill y sgiliau a’r cymwysterau cywir i’w paratoi ar gyfer bywyd ar ôl coleg p’un a ydyn nhw’n mynd ymlaen i addysg uwch, dilyn prentisiaeth, yn cael swydd neu’n symud ymlaen i gam cyffrous nesaf eu datblygiad.
Mae ein perthynas â’r dysgwyr yn eich cynnwys chi fel eu rhiant neu warcheidwad. Byddwn yn cyfathrebu â chi yn rheolaidd er mwyn rhoi gwybod i chi am eu cynnydd.
Bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi gan diwtor personol i sicrhau eu bod yn aros ar y llwybr iawn i lwyddo a byddan nhw’n cael tiwtorialau un i un rheolaidd. Gallwch gysylltu â’r tiwtor personol os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau ynghylch eu cynnydd yn y coleg.
Cyn iddyn nhw wneud cais i Goleg y Cymoedd, efallai y bydd gennych gwestiynau am y coleg, pa gymorth rydyn ni’n ei ddarparu, sut beth yw bywyd coleg, y broses ymgeisio neu rywbeth arall.
Rydyn ni wedi rhestru rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin isod. Os oes rhywbeth rydych yn dal yn ansicr yn ei gylch, cysylltwch ag un o’n timau cyfeillgar sydd bob amser yn barod i helpu.

Archwiliwch yr opsiynau sydd ar gael a dewch o hyd i’r cam nesaf cywir ar gyfer eich plentyn. Mae ein Diwrnodau Agored yn eich galluogi i weld ein cyfleusterau anhygoel ac i gwrdd â thiwtoriaid a’n timau cymorth.

Mae ein timau cymorth cyfeillgar yn barod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am gyrsiau, cludiant, grantiau/cymorth ariannol neu gymorth dysgu. Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gysylltu â ni
Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau yn para blwyddyn neu ddwy. Mae hyn yn dibynnu ar y cwrs a lefel y cwrs. Er mwyn gwybod union hyd y cwrs, gallwch drafod gyda’n tîm mewn Digwyddiad Agored, Digwyddiad Ymgynghori neu drwy gysylltu â ni.
Rydyn ni’n falch o’n gwasanaethau cymorth yng Ngholeg y Cymoedd. Mae ystod eang o gymorth ar gael i ddysgwyr gan gynnwys – Ariannol, Cymorth Astudio, Cymorth Dysgu, Llesiant a Diogelu, Cymorth Gyrfa, Cymorth Prifysgol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Cymorth: https://www.cymoedd.ac.uk/cymorth-i-ddysgwyr-2/?lang=cy
Bydd dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd yn cael cyfle i ailsefyll eu TGAU Saesneg neu Fathemateg ochr yn ochr â’u prif gwrs. Os nad yw graddau dysgwyr yn cyfateb i’r gofynion mynediad ar gyfer y cwrs maen nhw am ei astudio, byddwn yn sgwrsio â nhw wrth iddyn nhw ymrestru i ddod o hyd i gwrs sy’n addas ar eu cyfer nhw a’u nodau.
Mae gwneud cais am gwrs gyda ni yn hawdd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ‘Sut i Wneud Cais’
Byddan nhw’n cael neges destun/e-bost yn cydnabod eu cais gan y Tîm Derbyn. O fewn ychydig wythnosau, byddan nhw’n cael eu gwahodd i ddigwyddiad ymgynghori lle byddan nhw’n cael cyfle i siarad â staff y cwrs, cael taith o amgylch gweithdai/cyfleusterau a siarad â staff cymorth.
Mae gan bob un o’n campysau gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, gyda phrif lwybrau bws a thrên o fewn pellter cerdded i bob safle. Mae meysydd parcio am ddim ar bob un o’n campysau.
Os ydyn nhw’n 18 oed ac iau, efallai y gallan nhw gael mynediad at gludiant coleg drwy eu cyngor lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am gludiant coleg, ewch i’r dudalen Teithio i’r Coleg.
Mae amrywiaeth o gymorth ariannol a allai fod ar gael i ddysgwyr. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen ‘Cymorth Ariannol’
Ydyn wrth gwrs! Fel rhan o’n rhaglen CymoeddXtra, rydyn ni’n cynnig gweithgareddau ar draws pob campws, gan gynnwys timau chwaraeon, clybiau a chymdeithasau. Gallan nhw hyd yn oed ddysgu iaith newydd neu offeryn cerdd. Bydd ein gweithgareddau cyfoethogi/ychwanegol ar gael fel arfer ar ddechrau’r tymor (mis Medi). Ewch i weld sianel Instagram CymoeddXtra.
Oes, mae ein ap ar gael i ymgeiswyr a dysgwyr sydd wedi ymrestru. Pan fyddan nhw’n gwneud cais am gwrs gyda ni, bydd manylion am sut i gael mynediad at ap y coleg yn cael eu rhannu gyda nhw. Bydd modd iddyn nhw weld eu cais, gwneud unrhyw newidiadau os oes angen, gweld unrhyw ddyddiadau ymgynghori/cyfweliad a gweld statws eu cais.
Bydd, bydd amserlen yn cael ei darparu i bob dysgwr. Bydd modd gweld hwn ar ap y coleg neu drwy eu cyfrif Dysgwr
Gall ein gofynion mynediad amrywio rhwng cyrsiau, ond yn gyffredinol dyma yw ein gofynion mynediad:
Rhagor o wybodaeth am ein Gofynion Mynediad
Disgwylir i bob dysgwr sy’n astudio gyda ni wisgo eu cortynnau gwddf adnabod pan fyddan nhw ar y campws. Mae hyn yn sicrhau diogelwch yr holl staff, dysgwyr ac ymwelwyr ar y safle.
Mae Darpariaeth Dysgu Cyffredinol y Coleg yn cynnwys llawer o wahanol fathau o gymorth sydd ar gael i bob dysgwr. Mae ein tîm Darpariaeth Dysgu Ychwanegol cyfeillgar, profiadol a chymwys yn diwallu ystod o anghenion unigol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein darpariaeth dysgu ychwanegol yma.

Ydych chi’n ystyried eich hun yn ddawnus / yn berfformiwr elitaidd mewn unrhyw gamp, ac yn cystadlu ar lefel ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol? Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, gallwn ni helpu.

Bydd dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd yn astudio sesiynau sgiliau craidd wythnosol yn ystod eu cwrs. Bydd y sgiliau craidd yma’n canolbwyntio ar Lythrennedd Digidol, Cyflogadwyedd neu Ailsefyll TGAU

Mae Darpariaeth Dysgu Cyffredinol y Coleg yn cynnwys llawer o wahanol fathau o gymorth sydd ar gael i bob dysgwr. Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth gyda sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol; cymorth lles a llesiant i helpu gyda materion personol yn ogystal â chymorth ac arweiniad tiwtoriaid.
Mae Darpariaeth Dysgu Ychwanegol y Coleg ar gyfer dysgwyr ag anabledd, nam ar y synhwyrau neu anghenion dysgu ychwanegol fel dyslecsia, dyspracsia, ADHD neu ASD. Os oedd gennych Ddatganiad (AAA) neu os oeddech yn cael cefnogaeth yn yr ysgol ac yn meddwl bod angen help ychwanegol arnoch yn y Coleg, yna rhowch wybod i ni.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




