Cyrsiau sy’n dechrau ym mis Chwefror 2026

Sut i wneud cais

Does dim rhaid i chi aros tan fis Medi i ddechrau cwrs yng Ngholeg y Cymoedd.

Gallwch ymuno â Choleg y Cymoedd ym mis Chwefror ar gyfer cyrsiau Cyfarwyddo yn y Gampfa a Hyfforddiant Personol.

Cyrsiau Chwefror 2026 yng Ngholeg y Cymoedd

Ein cyrsiau Blwyddyn Newydd 2026.

Lefel 2 Cyfarwyddo yn y Gampfa

Mae’r cymhwyster hwn yn berffaith i chi os mai eich nod yw gweithio mewn campfa neu glwb iechyd, dechrau gyrfa mewn ffitrwydd, neu adeiladu sgiliau sylfaenol mewn hyfforddiant ymarfer corff.

Amserlen nodweddiadol

Hybrid neu wyneb yn wyneb.

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae’r ddau opsiwn yn trafod yr un cynnwys hanfodol.

  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol.
  • Anatomeg, ffisioleg a maeth a’u perthynas ag ymarfer corff a ffitrwydd.
  • Iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd ffitrwydd.
  • Cynnal sesiynau ymsefydlu cleientiaid a grŵp mewn lleoliadau campfa a chefnogi ffordd iach o fyw.
  • Cynllunio, cyfarwyddo a goruchwylio sesiynau ymarfer corff diogel ac effeithiol.
  • Proffesiynoldeb ar gyfer cyfarwyddyd ffitrwydd a datblygiad personol.

Dilyniant gyrfa

Gall graddedigion ddatgloi cyfleoedd gyrfa pellach yn y diwydiant ffitrwydd drwy symud ymlaen i’r Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol.

Hyfforddiant Personol Lefel 3

Bydd y cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i lefel broffesiynol mewn addysgu yn y gampfa, gan eich galluogi i ddod yn hyfforddwr personol ardystiedig.

Amserlen nodweddiadol

Hybrid rhan-amser (sesiynau campfa ar y safle a dysgu ar-lein o gartref).

Beth fydda i’n ei ddysgu?

  • Gwybodaeth bellach o anatomeg a ffisioleg sy’n berthnasol i hyfforddiant personol.
  • Ffordd o fyw a ffactorau meddygol sy’n effeithio ar les.
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol ar gyfer ymgynghoriadau cleientiaid i annog ffordd iach o fyw a strategaethau ar gyfer newid.
  • Sgiliau i gynllunio a chynnal sesiynau gweithgarwch corfforol gyda gwahanol fathau o gleientiaid mewn amrywiaeth o amgylcheddau gydag ystod o adnoddau.
  • Gofynion cyfreithiol a phroffesiynol ar gyfer hyfforddiant personol.
  • Sut i sefydlu a rheoli busnes hyfforddi personol ar sail hunangyflogedig os dymunwch.
  • Sut i reoli, gwerthuso a gwella eich perfformiad eich hun.

Dilyniant gyrfa

Efallai yr hoffech symud ymlaen i hyfforddiant pellach i weithio gyda grwpiau arbennig. Fel arall, gallech geisio cyflogaeth fel hyfforddwr personol neu weithio fel hyfforddwr personol hunangyflogedig.

Diwrnod Agored nesaf 22 Ionawr 2026

Ymweld â ni

Beth arall alla i ei astudio?

Os nad yw’r rhain yn mynd â’ch bryd, chwiliwch am y cwrs perffaith ar un o gampysau cyfagos Coleg y Cymoedd.

Chwilio Am Gwrs
Maes pwnc
Any
Lefelau A
Mynediad i Addysg Uwch
Modurol
Busnes
Astudiaethau Gofal a Phlentyndod
Arlwyo a Lletygarwch
Cyfrifiadura a TG
Adeiladu
Celfyddydau Creadigol
Addysg a hyfforddiant
Peirianneg ac Electroneg
Dysgu Sylfaenol
Trin Gwallt a Harddwch
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Ieithoedd a Sgiliau
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwyddoniaeth
Chwaraeon
Teithio
Chwilio am yrfa

Gwneud cais a chofrestru

Yn barod i wneud cais? Dysgwch ragor am y broses a beth sy’n digwydd yn ystod cofrestru.

Oedolion sy’n dysgu

Gallech fod â hawl i hawlio grant, benthyciad neu fwrsariaeth, ar gyfer amgylchiadau a chyrsiau penodol.

Oedolion sy’n dysgu

Nid yw oedran yn rhwystr i addysg yng Ngholeg y Cymoedd. Dysgwch am ein cyrsiau i oedolion a gwnewch gais heddiw.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd