Meithrinfeydd

Ynghylch

Mae meithrinfeydd preifat ar neu gerllaw pob un o bedwar campws Coleg y Cymoedd.

Meithrinfeydd agosaf at Goleg y Cymoedd

Mae yna opsiynau gofal plant o fewn ychydig funudau o’n holl leoliadau. Dyma’r meithrinfeydd agosaf at y coleg.

Mae Meithrinfa Acorns Nantgarw yn feithrinfa breifat, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd ar ein campws yn Nantgarw.

Mae gan y feithrinfa fodern le i 72 o blant. Mae ganddi ardd eang gydag ardaloedd agored ac wedi’u gorchuddio fel y gall y plant chwarae yn yr awyr agored, beth bynnag fo’r tywydd. Mae ystafelloedd chwarae dan do eang wedi’u dodrefnu â theganau ac offer o ansawdd uchel i ysgogi meddyliau ifanc. Mae gan bob un ardaloedd ar gyfer amser tawel, dychymyg ac archwilio.

  • 7.30am-6pm Llun-Gwener
  • Chwe wythnos i bum mlwydd oed
  • 02920 382009

Y feithrinfa agosaf at gampws Aberdâr yw Stepping Stones, wrth ymyl y coleg ar Ystâd Ddiwydiannol Robertstown.

  • 7.30am-6pm Llun-Gwener
  • Dau fis i bum mlwydd oed
  • 01685 884447

Mae Lollipops Daycare tua munud ar droed o’r coleg.

  • 7am-6pm Llun-Gwener
  • Geni i bum mlwydd oed
  • 01443 812724

Meithrinfa Ddydd Heavenly yw’r feithrinfa agosaf at gampws y Rhondda ac mae o fewn pum munud mewn car i’r coleg.

  • 7.30am-6pm Llun-Gwener
  • chwe wythnos i bum mlwydd oed
  • 01443 436609

Ydych chi’n ddysgwr gyda phlant? Dysgwch am gymorth ariannol gyda’ch astudiaethau.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd