

Eich porth i hyfforddiant a chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant – Ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Helpu unigolion a busnesau i dyfu drwy hyfforddiant arbenigol, prosiectau a ariennir, a mannau hyblyg ar gyfer digwyddiadau amrywiol.
Archwiliwch ein gwasanaethau neu siaradwch ag aelod o’n tîm.
Cymerwch y cam nesaf heddiw gyda hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i uwchsgilio neu ailhyfforddi. Gwnewch gais mewn munudau a dewiswch o blith amrywiaeth o gyrsiau ar draws pob diwydiant.
Darganfyddwch sut y gall Coleg y Cymoedd helpu eich busnes i ddarparu hyfforddiant yn y gweithle a mwy.
Archwiliwch ein portffolio o gyrsiau, yn amrywio o gyrsiau byr sy’n hanfodol i’r diwydiant i ddiplomâu lefel uwch.
Dewch o hyd i gyfleoedd cyllido ac adnoddau eraill a all helpu i dalu cost eich hyfforddiant.
Angen gofod? Mae gan Goleg y Cymoedd ystafelloedd, awditoria a chyfleusterau eraill y gallwch eu llogi ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau.
Rydyn ni’n cynnig ffioedd cwrs cystadleuol gyda chynlluniau rhandaliadau hyblyg i wneud dysgu yn hygyrch. Hefyd, drwy gydol y flwyddyn, mae gyda ni gynigion arbennig. Am y gwerth gorau, rydyn ni’n argymell siarad â’n tîm i gael clywed am y gostyngiadau sydd ar gael ac opsiynau archebu grŵp.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllido y gellir eu cymhwyso i’r rhan fwyaf o lwybrau hyfforddi. O gyllid Cyfrif Dysgu Personol ar gyfer unigolion i gefnogaeth wedi’i deilwra i fusnesau ac aelodau’r lluoedd arfog, yn ogystal ag academïau bŵtcamp a phrosiectau cymunedol wedi’u hariannu – mae rhywbeth at ddant pawb. Archwiliwch ein hystod lawn o gyfleoedd cyllido isod.
Gallwch ddod o hyd i Dîm Partneriaethau Coleg y Cymoedd ar gampws Ystrad Mynach. Rydyn ni’n cefnogi dysgwyr a sefydliadau gydag ystod eang o wasanaethau sy’n gysylltiedig â busnes ar draws y pedwar campws.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




