Cefnogaeth

Byddwch yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch gan Goleg y Cymoedd, yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Yng Ngholeg y Cymoedd byddwn yn cefnogi eich astudiaethau ym mhob ffordd y gallwn. Nid dim ond yn yr ystafell ddosbarth.

YEfallai y byddwch chi’n dod atom yn syth o’r ysgol neu’n dychwelyd i’r coleg ar ôl egwyl. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cael mynediad at yr addysg maen nhw’n ei haeddu.

Mae gennym dimau wedi’u lleoli ym mhob un o’n safleoedd i’ch cefnogi drwy eich taith coleg, gyda phopeth o gyngor gyrfa i ariannu eich astudiaethau.

Cymorth sydd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd

Rhai o’r ffyrdd y gallwn eich helpu i lwyddo.

Cymorth dysgu

Mynnwch help ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth os oes gennych ddyslecsia, dyspracsia, ADHD, ASD, anabledd neu nam synhwyraidd.

Cymorth ariannol

Gallech fod â hawl i grant, benthyciad neu fwrsariaeth, ar gyfer amgylchiadau a chyrsiau penodol.

Tîm y Dyfodol

Yn cefnogi eich camau nesaf. O geisiadau UCAS i ddechrau eich busnes eich hun, mae’r cyfan yn dechrau gydag ymweliad â’n Tîm y Dyfodol.

Yn eich cefnogi cyn, yn ystod ac ar ôl y coleg

Rydyn ni yma i chi bob cam o’ch taith yng Ngholeg y Cymoedd.


1. Paratoi ar gyfer y coleg

Dewisiadau coleg – mae’n drawsnewidiad cyffrous i fyfyrwyr a’u rhieni.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag ysgolion lleol fel y gall dysgwyr elwa o weithgareddau cymorth yn ystod eu blwyddyn olaf

Mae dysgwr yn dathlu cael mynediad i’r coleg
  • Ymweliadau ysgol â’r coleg – Profwch fywyd coleg am y dydd, ochr yn ochr â’ch ffrindiau ysgol.
  • Nosweithiau rhieni ac ymadawyr  – Gall y rhain fod i bawb, neu dim ond i bobl ifanc gydag ADY a’u teuluoedd. Cewch gwrdd â’n staff, cael sgwrs anffurfiol a dysgu am drefniadau cymorth.
  • Ymweliadau unigol i rieni a gofalwyr – Siaradwch â’r Cydlynydd ADY (CADY) yn ysgol eich plentyn neu cysylltwch â ni’n uniongyrchol i drefnu ymweliad. Byddwch yn cael gweld cyfleusterau’r campws a thrafod unrhyw bryderon.
  • Diwrnodau agored y coleg Dewch i ddiwrnod agored i siarad â staff a myfyrwyr. Mae staff Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY) o gwmpas ar Ddiwrnodau Agored y Coleg. Dewch i sgwrsio, nid oes angen apwyntiad.
  • Digwyddiadau pontio’r coleg – Cyfle i rai pobl ifanc dreulio diwrnodau ychwanegol yn y coleg ar gyfer pontio llyfn. Mae’r rhain yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd a dros gyfnod gwyliau’r haf. Rydyn ni’n cynnig y gweithgareddau ‘cadw mewn cysylltiad’ hyn i’r rhai a fyddai’n elwa o bontio dwys.

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i rywun sydd ag anghenion dysgwyr ychwanegol (ADY) mae’n normal teimlo ychydig yn bryderus. Rhowch wybod i ni am anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol pan fyddwch chi’n llenwi ffurflen gais y Coleg fel  y gall ein Tîm Cymorth Ychwanegol i Ddysgwyr (CDY) eich cefnogi a thawelu eich meddwl.


Mae aelod o staff cymorth yn helpu dysgwr

2. Yn y coleg

Mae addysgu a dysgu yng Ngholeg y Cymoedd wedi’u haddasu i anghenion pob dysgwr. Mae ein staff yn adolygu cynnydd yn rheolaidd i helpu dysgwyr i gyflawni eu targedau unigol.

Mae gan bob campws gyfleusterau wedi’u hadeiladu o amgylch cynhwysiant ac yn darparu ystod o wasanaethau cymorth i helpu pob dysgwr i lwyddo. Mae ein darpariaethau yn cynnwys:

  • Llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol – Mynnwch gefnogaeth gan y Tîm Llwyddiant Academaidd (AST).
  • Cymorth lles a llesiant – Rydyn ni yma i chi i’ch helpu i ymdopi â phroblemau personol neu emosiynol.
  • Tiwtoriaid personol – system tiwtorial sy’n hyrwyddo arweiniad, cefnogaeth ac anogaeth drwy gydol eich cwrs.
  • Cymorth CDY ystod o fesurau cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Cynorthwywyr Cymorth Dysgu (CCD) – wedi’u hamserlennu i ddarparu cymorth ychwanegol i unigolion a grwpiau o ddysgwyr i helpu i feithrin sgiliau astudio annibynnol ac annog datblygiad personol.
  • Cymraeg – Rydym yn cefnogi siaradwyr Cymraeg a’r rhai sy’n awyddus i ddysgu Cymraeg hefyd.
  • Teuluoedd lletyolDarganfyddwch sut i agor eich cartref i ddysgwr neu ddod o hyd i deulu i aros gyda nhw yn ystod eich amser yn y coleg.

Ac wrth gwrs, gallwch elwa o gefnogaeth cymdeithasau, clybiau a digwyddiadau coleg ochr yn ochr â’ch cyd-ddysgwyr. Archwiliwch fywyd coleg a darganfyddwch beth sy’n digwydd gyda Cymoedd Xtra.


3. Dilyniant o’r coleg

Mae gorffen eich astudiaethau coleg yn ddechrau rhywbeth llawer mwy.

Dyma beth arall y gallwn eich cefnogi wrth i chi baratoi i adael ni:

Mae dysgwr yn paratoi cais
  • Tiwtoriaid cwrs – bydd eich tiwtoriaid yn adolygu’ch opsiynau dilyniant yn ffurfiol tua diwedd y flwyddyn academaidd. Lle bo hynny’n briodol, gall rhieni a gofalwyr fod yn rhan o’r broses. Gallant fynd dros eich opsiynau, gan gynnwys dilyniant i gyrsiau prifysgol neu gyrsiau lefel uwch yng Ngholeg y Cymoedd.
  • Y tîm CDY – Help ymarferol gyda’ch camau nesaf. Gall y tîm helpu gyda chynllunio trefniadau cymorth, yn ogystal â rhannu a chyfathrebu gwybodaeth briodol.
  • Tîm y Dyfodol – Beth yw eich cam nesaf? Gall ein Tîm y Dyfodol eich helpu i ddewis gyrfa, ymgeisio am swydd a gwireddu eich dyheadau.
  • Rhaglen fentora Cewch eich ysbrydoli. Gall Coleg y Cymoedd eich rhoi mewn cysylltiad â mentor yn eich llwybr gyrfa dewisol. Dysgwch gan rai o’r bobl fwyaf llwyddiannus yn eu maes.

Newyddion Cymorth Diweddaraf

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Newyddion a Blogiau Newyddion ALN Ap Coleg y Cymoedd