Mae bod yn ddwyieithog yn sgil cyflogadwyedd gwerthfawr a all eich gosod ar wahân yn y farchnad swyddi ac agor drysau i gyfleoedd gyrfa ledled Cymru.
Byddwch yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ddysgu a siarad Cymraeg yng Ngholeg y Cymoedd – dy iaith di; dy ffordd di.
Get in touch with Coleg y Cymoedd’s dedicated Welsh language team for translation, tuition and more.
Rydyn ni’n cynnig ystod eang o lwybrau astudio dwyieithog yng Ngholeg y Cymoedd.
Gyda chyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydyn ni’n cynnig darpariaeth ddwyieithog yn y meysydd pwnc hyn:
Gallwch hefyd astudio:
Dyma rai o’n mentrau i roi’r ffocws a’r amlygrwydd haeddiannol i’r Gymraeg yng Ngholeg y Cymoedd.
Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt.
Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu buddsoddiad a’u cefnogaeth.


Mae dysgwyr yn cael y cyfle i ddod yn Lysgenhadon a Phencampwyr y Gymraeg sy’n hyrwyddo’r iaith ymhlith dysgwyr drwy helpu gyda digwyddiadau, diwrnodau agored ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal â bod yn gyfle gwych i gwrdd â phobl a dangos brwdfrydedd dros yr iaith, mae hefyd yn rhywbeth gwych i’w roi ar eich CV neu gais prifysgol.
Mae Cwtsh Cymraeg ar bob campws. Mae’n lle i ymlacio a chymdeithasu yn Gymraeg, siarad Cymraeg a dysgu Cymraeg ac mae croeso i bawb.
Cysylltwch â Thîm y Gymraeg am ragor o wybodaeth am y Cwtsh, neu dewch i mewn i’n gweld.

Mae gennych yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hyn. Rydyn ni’n eich annog yn gryf i ddefnyddio’r hawl hon a byddwn yn eich cefnogi ym mhob ffordd y gallwn yng Ngholeg y Cymoedd:
Os oes gennych gwestiynau am arfer eich hawliau o ran y Gymraeg, cysylltwch â Thîm y Gymraeg.
Os nad ydych chi’n siarad Cymraeg eto ond rydych chi eisiau dysgu, mae gennym lu o adnoddau i’ch helpu chi.
Cofrestrwch ar gyfer cwrs ar-lein – Mae gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyrsiau ar-lein am ddim wedi’u creu’n arbennig ar gyfer pobl ifanc.
Holwch am wersi Cymraeg wyneb yn wyneb – Galwch heibio i Hwb Ymgysylltu fel y gallwn drefnu hyn i chi.
Dewch i ymweld â Cwtsh Cymraeg – Gallwn gynnig cefnogaeth un-i-un i chi gyda’ch Cymraeg ac mae gennym hefyd lwyth o lyfrau, cylchgronau ac adnoddau eraill y gallwch eu defnyddio.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




