ReACT

Cefnogaeth

Gall ReAct+ eich helpu i ddychwelyd i gyflogaeth cyn gynted â phosibl ar ôl diswyddo. Mae’r cynllun yn rhan o Warant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru.

Sut all ReAct+ helpu?

Byddwch yn cael pecyn o gymorth wedi’i deilwra i helpu i gael gwared ar y rhwystrau i gyflogaeth. Gallai hyn gynnwys:

  • Cymorth ariannol.
  • Hyfforddiant sgiliau.
  • Cymorth datblygiad personol.
  • Cymorth gydag iechyd meddwl, magu hyder, sgiliau iaith a mwy.

Cymorth ariannol gan ReAct+

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gallu hawlio:

  • Hyd at £1,500 am gost hyfforddiant.
  • Hyd at £2,100 i helpu i dalu costau gofal plant a gofal tra byddwch mewn hyfforddiant.
  • Hyd at £200 o gymorth ychwanegol tuag at gostau eraill sy’n gysylltiedig â hyfforddiant, fel teithio a llety.

I ddarganfod yn union sut y gall ReAct+ eich helpu, bydd angen i chi drefnu apwyntiad gyda Gyrfa Cymru.

Cymhwystra ar gyfer cymorth ReAct+

I fod yn gymwys i gael cymorth ReAct+, rhaid i chi fod yn:

  • 20+ oed.
  • Preswylydd yng Nghymru sydd â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU.

Rhaid i chi hefyd fodloni un o’r meini prawf canlynol:

  • Rydych o dan rybudd ffurfiol o ddiswyddo.
  • Rydych wedi cael eich diswyddo o fewn y chwe mis diwethaf.
  • Rydych chi’n gyn-droseddwr neu’n droseddwr sy’n cwblhau dedfryd gymunedol.

ReAct+ ar gyfer cyflogwyr

Fel cyflogwr, gallwch hawlio cymorth gyda chyflogau a hyfforddiant sy’n gysylltiedig â swydd i ddarpar weithiwr o dan y cynllun ReAct+.

Gallech hawlio hyd at £4,000 tuag at gyflog y gweithiwr yn eu blwyddyn gyntaf yn gweithio i chi.

I fod yn gymwys i gael y cymorth i’ch darpar weithiwr:

  • Rhaid i’r gweithiwr fod wedi bod allan o waith am o leiaf chwe wythnos pan fyddant yn gwneud cais i chi.
  • Ni all y gweithiwr weithio i chi tan bod y cymorth wedi’i gymeradwyo.

Gall darpar gyflogwyr ReAct+ gysylltu â Busnes Cymru ar 03000 6 03000 i gael gwybod rhagor, neu gysylltu â thîm Partneriaethau Coleg y Cymoedd i weld sut y gallwn eich cefnogi gyda hyfforddiant gweithwyr.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd