Cymorth ariannol

Cefnogaeth

Nid ydym am i gost fod yn rhwystr i unrhyw un sy’n astudio yng Ngholeg y Cymoedd.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gael help gyda chost astudio, gan gynnwys, grantiau, bwrsariaethau, benthyciadau a lwfansau.

Pa gyllid alla i ei gael?

Mae’r cyllid rydych chi’n gymwys amdano yn dibynnu ar eich oedran, incwm aelwyd a’ch math o gwrs. Dyma grynodeb o rai o’r mathau o gyllid y gallech wneud cais amdanynt.


Cyllid ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed

Mae sawl ffynhonnell o gyllid i’ch helpu i barhau â’ch addysg y tu hwnt i oedran ysgol gorfodol.

Dyma’r prif fathau o gyllid coleg y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer os ydych yn 16-18 oed. Cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr os oes angen rhagor o gymorth a chyngor arnoch ar yr hyn sydd ar gael.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Mae LCA ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd eisiau parhau â’u haddysg ar ôl gadael yr ysgol.

Yn amodol ar gymhwystra, gallech gael £40 yr wythnos, wedi’i dalu bob pythefnos..

Cymhwystra LCA

I fod yn gymwys ar gyfer LCA mae’n rhaid i chi fod:

  • Yn 16-18 oed pan fydd eich cwrs yn dechrau.
  • Yn breswylydd yn y DU.
  • Yn astudio ar gwrs academaidd neu alwedigaethol hyd at ac yn cynnwys lefel tri.
  • Ag Incwm cartref o £23,400 neu lai os mai chi yw’r unig berson ifanc yn yr aelwyd, neu £25,974 neu lai os oes mwy nag un (gan eich cynnwys chi).

Bydd angen i chi hefyd gwblhau Cytundeb Dysgu gyda Choleg y Cymoedd a bod â phresenoldeb o 100% bob wythnos i dderbyn eich taliadau.

Sut i wneud cais am LCA

Gallwch wneud cais drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Mae ceisiadau am LCA yn agor ym mis Ebrill a gallwch wneud cais cyn i chi gael eich canlyniadau TGAU. Cyflwynwch eich cais erbyn 30 Mehefin i wneud yn siŵr bod y trefniadau cyllid ar waith ar gyfer dechrau eich cwrs.

Cronfa Ariannol wrth Gefn (FCF)

Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) ar gyfer dysgwyr sy’n profi anawsterau ariannol ac sydd mewn perygl o adael y coleg oherwydd incwm isel ac amgylchiadau heriol.

Cymhwystra FCF

I gael eich ystyried ar gyfer FCF mae’n rhaid i chi:

  • Bod dros 16 oed
  • Ar gwrs llawn amser

Yna mae meini prawf cymhwystra gwahanol yn dibynnu ar ba gymorth rydych chi’n ymgeisio amdano.

Sut i wneud cais am FCF

Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd. Mae’n syniad da gwneud cais cyn gynted ag y byddwch chi’n cofrestru i sicrhau cymorth digonol gan y gronfa.


Cyllid addysg bellach i oedolion (18+)

Gall oedolion mewn addysg bellach wneud cais am gymorth ariannol yn dibynnu ar eu hanghenion a’u hamgylchiadau.

Cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr a Champws i ddysgu rhagor am yr hyn y gallech fod yn gymwys ar ei gyfer.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC)

Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr 19 oed neu’n hŷn sy’n astudio cwrs addysg bellach yn y coleg.

Os ydych chi’n gymwys, gallech gael hyd at £1,919 y flwyddyn am astudio ar gwrs llawn amser neu hyd at £959 y flwyddyn i astudio’n rhan-amser.

Cymhwystra GDLlC

I fod yn gymwys i gael grant dysgu Llywodraeth Cymru, rhaid i chi fod:

  • Yn byw yng Nghymru
  • Yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel 2 neu lefel 3
  • Ag Incwm cartref o lai na £18,370

Mae’r swm y mae gennych hawl iddo yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr a Champws i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau sy’n gymwys i gael cymorth AB GDLlC.

Sut i wneud cais am GDLlC

Mae cais am gyllid ar gyfer y mis Medi canlynol yn agor ym mis Ebrill. Mae angen i chi wneud cais am gyllid AB GDLlC drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Cronfa Ariannol wrth Gefn (FCF) 19+

Os ydych chi’n ddysgwr 19 oed neu’n hŷn ac yn byw mewn aelwyd incwm isel, gallwch wneud cais i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF).

Gall y gronfa helpu oedolion sy’n dysgu gyda threuliau fel gofal plant, offer cwrs a theithio.

Cymhwysedd FCF 19+

Mae angen i chi fodloni meini prawf FCF tebyg i ddysgwyr iau os ydych chi’n 19+ oed.

Er mwyn elwa o’r gronfa mae’n rhaid i chi:

  • Fod ar gwrs amser llawn.
  • Yn derbyn budd-daliadau (neu fyw gyda rhywun sy’n gwneud hynny).
  • Fod ag incwm cartref o £16,190 neu lai.

Yna mae meini prawf cymhwystra gwahanol yn dibynnu ar ba gymorth rydych chi’n ymgeisio amdano.

Sut i wneud cais am FCF 19+

Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd. Mae’n syniad da gwneud cais cyn gynted ag y byddwch chi’n cofrestru i gael cymorth digonol gan y gronfa.

Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd er ei bod yn well gwneud hynny cyn gynted â phosibl.

Dysgwch ragor am Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) Coleg y Cymoedd, gan gynnwys sut i wneud cais.

Cyfrif Dysgu Personol (PLA)

Mae Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn eich helpu i ennill cymwysterau i gynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth mewn sectorau blaenoriaeth ledled Cymru.

Mae PLA yn gweithio ychydig yn wahanol i fathau eraill o gyllid coleg. Yn hytrach na chael benthyciad neu grant, rydych chi’n cael mynediad drwy eich cyfrif i gyrsiau y gallwch eu hastudio am ddim.

Mae cyrsiau wedi’u halinio â sectorau sydd â phrinder sgiliau. Porwch gyrsiau PLA y gallwch eu hastudio yng Ngholeg y Cymoedd.

PLA eligibility

I fod yn gymwys ar gyfer PLA mae’n rhaid i chi:

  • Fod dros 19 oed
  • Yn byw yng Nghymru
  • Yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n ofalwr llawn amser

Mae angen i chi hefyd gael cyflog o £34,303 neu lai ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau.

Sut i wneud cais am PLA

Gallwch wneud cais am gwrs PLA a ariennir yn llawn yn uniongyrchol drwy Goleg y Cymoedd.

ReAct+

Mae React+ yn rhaglen grant gan Lywodraeth Cymru i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl diswyddo gyda grant o hyd at £1,500.

Gall cyllid React+ helpu gyda chostau:

  • Hyfforddiant galwedigaethol.
  • Costau teithio.
  • Gofal plant.

Cymhwystra ReAct+

I fod yn gymwys i gael cymorth ReAct+, rhaid i chi fod:

  • Yn 20+ oed.
  • Yn byw yng Nghymru.
  • Â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU.

Mae angen i chi hefyd fodloni un o’r meini prawf canlynol:

  • O dan rybudd ffurfiol o ddiswyddo.
  • Wedi cael eich diswyddo yn ystod y chwe mis diwethaf.
  • Yn gyn-droseddwr.
  • Yn droseddwr sy’n cyflawni dedfryd gymunedol.

Sut i wneud cais am ReAct+

Mae angen i chi drefnu apwyntiad gyda chynghorydd Gyrfa Cymru i wneud cais am ReAct+.

Dysgwch ragor am ReAct+, gan gynnwys sut i wneud cais yn eich swyddfa Gyrfa Cymru agosaf..

Cynllun Credydau Dysgu Uwch (ELCAS)

Mae’r Cynllun Credydau Dysgu Uwch (ELCAS) yn ariannu ar gyfer aelodau presennol a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog.

Yn dibynnu ar eich hyd gwasanaeth, gallech gael £1,000-£2,000 tuag at gost eich cwrs bob blwyddyn.

Cymhwystra ELCAS

Mae’r cynllun ELCAS ar gyfer aelod presennol neu gyn-aelod o’r lluoedd arfog.

  • Rhaid i chi fod wedi gwasanaethu am o leiaf bedair blynedd.
  • Os ydych chi’n gyn-filwr, mae’n rhaid i chi fod wedi gadael y lluoedd o fewn y pum mlynedd diwethaf.
  • Rhaid i’ch cwrs fod yn lefel tri neu’n uwch.

Sut i wneud cais am ELCAS

Mae angen i chi wneud cais gyda staff addysg eich llu arfog os ydych chi’n dal i fod yn gwasanaethu. Os ydych chi wedi gadael y lluoedd, cysylltwch â’ch cynrychiolydd gwasanaeth sengl.


Cyllid ar gyfer dysgwyr addysg uwch

Mae sawl llwybr i ariannu eich astudiaethau ar lefel prifysgol yng Ngholeg y Cymoedd.

Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr ar gyrsiau cymwys yn gallu gwneud cais am gyllid myfyrwyr ac mae cymorth ychwanegol ar gael i rai dysgwyr.

Cyllid myfyrwyr

Gallwch gael benthyciad myfyriwr o hyd at £9,790 i dalu cost cwrs addysg uwch fel gradd, HND neu TAR. Nid yw’r benthyciad ffioedd dysgu yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Gallech hefyd gael hyd at £12,590 fel cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’ch costau byw. Mae faint rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar:

  • P’un a ydych chi’n byw gyda rhieni neu’n annibynnol oddi wrthynt.
  • Incwm eich cartref.
  • P’un a ydych chi’n astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser.

Er enghraifft, gall dysgwyr llawn amser nad ydynt yn byw gyda rhieni hawlio grant nad oes angen ei ad-dalu o rhwng £1,020 a £8,260, yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

Mae pecyn tebyg ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys, ar sail pro-rata sy’n gysylltiedig â dwyster astudio.y.

Cymhwystra cyllid myfyrwyr

Gallech fod yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr os yw eich cwrs yng Ngholeg y Cymoedd yn arwain at un o’r cymwysterau hyn:

  • Gradd Gyntaf – Baglor yn y Celfyddydau (BA), Gwyddoniaeth (BSc) neu Addysg (BEd).
  • Gradd Sylfaen.
  • Tystysgrif Addysg Uwch.
  • Diploma Addysg Uwch (DipHE).
  • Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).
  • Diploma Cenedlaethol Uwch (HND).
  • Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR).
  • Addysg Gychwynnol Athrawon (ITE).

Sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr

Mae ceisiadau am gyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi canlynol yn agor ddiwedd mis Mawrth.

Cymorth arall i ddysgwyr addysg uwch

There are several other schemes you might be eligible for:

  • Disabled students allowance – Extra support on top of your student finance to help with study related costs.
  • ELCAS – For current or ex members of the armed forces.

Cyllid i gyflogwyr

Mae nifer o gynlluniau sy’n cynnig cyllid i gyflogwyr a busnesau i helpu i annog uwchsgilio, gan gynnwys:

Dysgwch ragor am gyrsiau cyllido ar gyfer eich gweithwyr neu cysylltwch â’n Tîm Partneriaethau.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd