Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd

Mae Coleg y Cymoedd yn ymdrechu i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i bob defnyddiwr (hygyrchedd porwr a hygyrchedd i ddefnyddwyr).

Cydymffurfio â Safonau

Mae gwefan Coleg y Cymoedd wedi’i chreu, ei dylunio a’i phrofi yn unol â chanllawiau hygyrchedd cynnwys gwe Consortiwm y We Fyd-eang (W3C).  Mae’r W3C yn gonsortiwm rhyngwladol sy’n gyfrifol am ddatblygu safonau ac arferion gwe.

Cyn belled â phosibl, rydyn ni’n sicrhau bod:

  • Pob tudalen ar y wefan hon yn dilysu fel cydymffurfiaeth HTML5
  • Pob tudalen ar y wefan hon yn cydymffurfio â blaenoriaeth 1 ac yn y rhan fwyaf o achosion blaenoriaeth 2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe W3C

Mae’r wefan hon wedi’i datblygu i gydymffurfio â’r holl brif borwyr gwe a llwyfannau sy’n cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan ei wneuthurwr.

Recite Me

Gall ymwelwyr â’r wefan wrando ar y cynnwys trwy ddefnyddio Recite Me. Mae Recite Me yn darllen cynnwys y wefan yn uchel mewn llais o ansawdd uchel, sy’n swnio’n ddynol. Mae pob gair yn cael ei amlygu wrth iddo gael ei ddarllen yn uchel ac mae’r frawddeg yn cael ei amlygu mewn lliw cyferbyniol. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr adnabod yn hawdd pa destun sy’n cael ei ddarllen yn uchel a llywio o fewn a rhwng tudalennau gwe.

  • pobl â sgiliau llythrennedd a darllen isel
  • pobl nad Saesneg neu Gymraeg yw eu hiaith gyntaf
  • pobl â dyslecsia
  • pobl â nam golwg ysgafn

Dolenni

Mae gan lawer o ddolenni nodweddion teitl sy’n disgrifio’r ddolen yn fanylach.  Mae dolenni wedi’u hysgrifennu i wneud synnwyr allan o gyd-destun

Delweddau

Mae’r holl ddelweddau cynnwys a ddefnyddir ar y wefan hon, lle bo hynny’n bosibl, yn cynnwys priodoleddau ALT disgrifiadol.

Maint ffont

Sut i newid maint y ffont yn eich porwr:

Internet Explorer:

  1. Dewiswch y botwm ‘Tudalen’.
  2. Dewiswch ‘Maint testun’.
  3. Dewiswch y maint rydych chi ei eisiau.

Google Chrome:

  1. Dewiswch ddewislen Chrome ar far offer y porwr.
  2. Dewiswch ‘Gosodiadau’.
  3. Dewiswch ‘Dangos gosodiadau uwch’.
  4. Yn yr adran ‘Cynnwys gwe’, defnyddiwch y gwymplen ‘Maint ffont’ i wneud addasiadau.

Mozilla Firefox:

  1. Ewch i ‘Offer’.
  2. Dewiswch ‘Opsiynau’,
  3. Dewiswch ‘Cynnwys’.
  4. Dewiswch ‘Ffontiau a Lliwiau’. Gallwch newid i’r maint sydd ei angen arnoch yma.

Dylunio Gweledol

Mae’r wefan hon yn defnyddio taflenni arddull rhaeadru ar gyfer cynlluniau gweledol.  Os nad yw eich porwr yn cefnogi taflenni arddull, dylai cynnwys pob tudalen fod yn ddarllenadwy o hyd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau, cysylltwch â ni.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Newyddion a Blogiau Newyddion ALN Ap Coleg y Cymoedd