Cynllun Mentora i Ddysgwyr Benywaidd
BETH YW’R CYNLLUN MENTORA?
Rydym yn grŵp o weithwyr proffesiynol sydd am gefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a nodau gyrfa trwy gynllun mentora.
Os ydych am ymuno â’r cynllun, cewch eich paru â mentor sydd â sgiliau neu brofiad gwaith perthnasol yn y maes yr hoffech weithio ynddo, neu a all eich helpu gyda meysydd datblygiad personol yr ydych am weithio arnynt.
Bydd eich mentor yn seinfwrdd cyfrinachol ichi, a byddwch yn gallu trafod eich dyheadau gyrfa a’ch datblygiad personol gyda nhw. Gyda’ch gilydd, byddwch yn llunio cynllun gweithredu i’ch galluogi i gyrraedd eich nodau.
Bydd y cynllun yn rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn academaidd, gyda myfyrwyr yn cwrdd â’u mentoriaid am awr, unwaith y mis naill ai wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo
Hoffem eich helpu i ddatblygu rhai sgiliau y gallwch eu defnyddio yn y gweithle ac yn eich bywyd personol. Hefyd, hoffem ichi fanteisio ar ein profiad ni, fel bod modd ichi osgoi gwneud yr un camgymeriadau ag y gwnaethom ni.
Dyma rai o’r pethau y gallwch siarad â ni amdanynt. Mae’n rhaid bod mwy na’r rhain, ond dyma fan cychwyn da:
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni
Rydym yn eithaf dibynadwy, felly byddwn yn cadw at ein gair, ac os na allwn wneud hynny, byddwn yn dweud wrthych cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn cadw ein trafodaethau’n gyfrinachol, oni bai fod yr hyn a ddywedir yn dod o dan bolisi Diogelu’r coleg. Os felly, mae’n rhaid inni ddweud wrth y coleg, ond rown wybod ichi cyn gwneud.
Yn ein cyfarfod cyntaf, byddwn yn cytuno ar rai rheolau sylfaenol fel ein bod ni’n dau yn gwybod sut y saif pethau.
Beth na fyddwn yn ei wneud
Nid eich rhieni ydym ni felly ni fyddwn yn benthyg unrhyw arian ichi nac yn gofyn ichi anfon neges destun yn dweud pryd y byddwch gartref. Ac ni fyddwn yn codi bwyd ichi o McDonalds ar y ffordd i’n cyfarfod mentora chwaith.
Nid oes unrhyw beth yn bendant yn y cynllun mentora, felly os nad ydych am ysgrifennu cynllun gweithredu, does dim rhaid ichi wneud hynny. Er, byddwch chi a’ch mentor yn cytuno ar yr hyn y byddwch yn ei drafod ac yn ei wneud yn eich cyfarfodydd, nid oes rhaid ichi gadw unrhyw gofnodion neu waith papur oni bai eich bod am wneud hynny.
Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Rydym ond yn gofyn ichi ddod i’ch cyfarfodydd (naill ai wyneb yn wyneb neu drwy fideo), ac os na allwch ddod, i roi cymaint o rybudd inni ag y bo modd.
Cadwch at y rheolau sylfaenol y cytunir arnynt â’ch mentor yn eich cyfarfod cyntaf, a bydd popeth yn iawn.
Os nad yw pethau’n mynd fel yr oeddech yn ei ddisgwyl, neu os nad ydych wedi cael yr hyn sydd ei angen arnoch o’r sesiynau, rhowch wybod inni. Does dim pwynt parhau gyda’r sesiynau os nad ydych eisiau neu os nad oes angen.
Megan Howells
Astudiodd Megan yng Ngholeg y Cymoedd yn 2017, gan ennill Safon Uwch yn y Gyfraith (A *), Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (A *), Hanes (A), a Bagloriaeth Cymru (A). Mae bellach yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen.
“Mae’r cynllun mentora wedi rhoi cyfle amhrisiadwy imi ddatblygu fy sgiliau a’m diddordeb yn fy mhwnc. Cyn dechrau’r cynllun, roeddwn yn teimlo ar goll ac yn ansicr ynghylch sut y gallwn benderfynu beth yr oeddwn am ei wneud ar ôl gadael y brifysgol. Fodd bynnag, mae gweithio gyda’r Barnwr Cyflogaeth Davies wedi rhoi cyfoeth o brofiad imi mewn ystod eang o feysydd yn ymwneud â’r Gyfraith. Mae’r cynllun wedi caniatáu imi gael fy ymestyn a’m herio mewn modd sydd wedi gwella fy hyder, gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol. Rwyf nawr mewn sefyllfa lle mae gennyf ddiddordeb mawr yn y Gyfraith, yr adnoddau i wella fy mherfformiad academaidd, a’r profiad ymarferol i fy helpu â phenderfyniadau yn y dyfodol. “
Lauren Rice
Dechreuodd Lauren astudio yng Ngholeg y Cymoedd yn 2017 ac mae wedi cwblhau ei Diploma BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3. Ar hyn o bryd mae’n astudio am ei Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n awyddus i fod yn nyrs pan fydd wedi graddio.
“Manteision y cyfarfodydd hyd yn hyn yw gallu adnabod rhinweddau yn fy hun nad wyf erioed wedi eu hadnabod o’r blaen. Mae’n fy ngalluogi i fod â mwy o ffydd a chred ynof fy hun nad oedd gennyf erioed o’r blaen. Bydd hyn o gymorth imi yn y dyfodol gan y bydd yn caniatáu imi dyfu’n fwy hyderus.
Rwyf yn credu y byddai myfyrwyr yn elwa o sesiynau mentora gan eu bod yn eich helpu i ddarganfod eich hun. Mae’r myfyrwyr yn canolbwyntio’n bennaf ar eu hastudiaethau ond yn anghofio amdanynt eu hunain yn y broses, dyma le mae pobl yn dechrau teimlo’n isel, ond mae cael sesiynau mentora ochr yn ochr â’ch astudiaethau yn caniatáu ichi dreulio awr yn canolbwyntio arnoch chi eich hun a gweithio ar eich brwydrau personol megis diffyg hyder neu ddiffyg hunan-barch. “
|
Mentoring Agreement
|
|
Mentoring Action Plan
|
|
Mentoring Review Form
|
|
Mentoring Scheme Feedback Form
|
|
Mentoring Agreement
|
|
Mentoring Action Plan
|
|
Mentoring Review Form
|
|
Mentoring Handbook
|
|
Mentoring Initiatives Slides PDF
|
|
Mentoring Initiatives Slides Powerpoint
|
|
Safeguard Training
|
|
SWOT analysis sheet
|
|
SWOT analysis guidelines
|
|
Self Confidence Exercises
|
|
Self Esteem Exercises
|
|
The Balance Wheel
|
Useful Links
|
How to write a personal statement for University
|
|
How to apply for a place at university.
|
|
How to write a CV
|
|
Mentoring teenage girls
|
|
Mentoring tips
|
|
How to connect with Millennials
|
Mae Daniela yn Gyfreithiwr Cyflogaeth yn ogystal â Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC, sef gwasanaeth cyfreithiol mewnol GIG Cymru.
Mae Daniela yn Gyfreithiwr Cyflogaeth yn ogystal â Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC, sef gwasanaeth cyfreithiol mewnol GIG Cymru.
Daw Daniela o Gastell Nedd ac astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe cyn symud i Gaerdydd i astudio yn Ysgol y Gyfraith. Mae Daniela wedi gweithio yn y sector preifat yn ogystal â’r sector cyhoeddus.
Bu Daniela’n addysgu’r modiwl Cyfraith Cyflogaeth ar y cwrs Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi hefyd yn mentora fel rhan o gynllun Mentor Mums, gan gynnig cymorth i’r rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod mamolaeth.
Mae gan Daniela ddau o blant yn yr ysgol uwchradd a dau gi. Mae Daniela yn mwynhau canu gyda band, bwyd da a mynd ar wyliau.
Mae gan Daniela brofiad o’r canlynol:
Sioned yw pennaeth tîm Cyflogaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.
Sioned yw pennaeth tîm Cyflogaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae Sioned wedi bod yn gweithio fel cyfreithiwr cyflogaeth arbenigol yn y GIG ers mis Awst 2012. Mae hi’n cynghori cleientiaid adnoddau dynol ar bob agwedd ar gyfraith cyflogaeth cynhennus a digynnen. Mae gan Sioned ddiddordeb arbennig mewn materion diswyddo annheg a chwythu’r chwiban ac mae’n mwynhau rhoi cyngor i bobl am y materion hyn. Astudiodd Sioned ym Mhrifysgol Aberystwyth a symudodd i Gaerdydd i ddilyn Cwrs Ymarfer y Gyfraith. Tra roedd hi’n dilyn y cwrs yng Nghaerdydd, sylweddolodd Sioned cymaint roedd hi’n mwynhau cyfraith cyflogaeth a datblygodd y diddordeb hwn wrth iddi hyfforddi i ddod yn gyfreithiwr.
Mae Sioned yn briod ac yn fam i ddwy sy’n ei chadw hi’n brysur iawn. Mae hi’n dal i geisio dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn mwynhau’r broses honno ar hyn o bryd. Mae hi’n mwynhau mynd ar wyliau gyda’i theulu a ffrindiau.
Mae gan Sioned brofiad o’r canlynol:
Seicolegydd clinigol gyda’r GIG yng Ngwent yw Kathryn lle mae’n gyd-bennaeth gwasanaeth o seicolegwyr, cwnselwyr a therapyddion celf sy’n gweithio i wella iechyd meddwl a chorfforol i bobl o bob oed.
Seicolegydd clinigol gyda’r GIG yng Ngwent yw Kathryn lle mae’n gyd-bennaeth gwasanaeth o seicolegwyr, cwnselwyr a therapyddion celf sy’n gweithio i wella iechyd meddwl a chorfforol i bobl o bob oed.
Yn wreiddiol, roedd Kathryn am astudio’r Gyfraith, yna Meddygaeth, yna Biocemeg. Tra ar ymweliad â Phrifysgol Birmingham yn y chweched dosbarth, sylweddolodd nad Biocemeg oedd y pwnc iddi hi. Gydag ond awr ar ôl ar y campws cyn roedd ei hysgol i fod i adael, fe grwydrodd Kathryn i mewn i’r adran Seicoleg a chafodd ei chyfareddu gan y pwnc, gan benderfynu yn y fan a’r lle mai dyna oedd hi am ei astudio yn y brifysgol. Dros 31 mlynedd yn ddiweddarach, mae Kathryn yn dal i gael ei rhyfeddu gan y pwnc ac yn teimlo’n freintiedig i weithio mewn swydd sy’n dod â hi i gysylltiad uniongyrchol â chymaint o bobl sy’n ceisio gwneud newidiadau yn eu bywydau.
Mae Kathryn yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a rhwng un a thri o’i thri o blant, yn dibynnu beth sy’n digwydd yn eu bywydau (mae dau ohonynt yn oedolion). Roedd hi’n arfer rhedeg ond mae hi bellach yn gwneud ymarfer corff cylchol, beicio a chodi pwysau.
Mae gan Kathryn brofiad o’r canlynol:
Mae Roxanna yn Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Arholwr Allanol yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Efrog.
Mae Roxanna yn Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, yn Arholwr Allanol yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Efrog, ac yn Llywodraethwr yng Ngholeg y Cymoedd, ymhlith rolau eraill. Mae hi’n dysgu Cyfraith Droseddol ac wedi dysgu Cyfiawnder Troseddol, Sgiliau Cyfreithiol a Chyfraith Teulu yn y gorffennol. Mae hi’n mwynhau ysgrifennu ac mae wedi cyhoeddi dau lyfr a sawl erthygl. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn gweithio gydag eraill, ar draws pynciau a sectorau.
Astudiodd Roxanna yng Ngogledd Iwerddon (llai na 50 milltir o’i chartref), yn yr Iseldiroedd (dros 800 milltir o’i chartref) ac yng Nghaerlŷr (rhywle yn y canol), cyn iddi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi – manwerthu, lletygarwch, cyllid, tai, a’r sector cynghori, cyn cyrraedd maes addysg uwch ac ymchwil.
Mae hi’n angerddol am wella’r system cyfiawnder troseddol ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, gan ysbrydoli dysgwyr i feddwl yn feirniadol am y gyfraith a’i rôl mewn cymdeithas, ac ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch.
Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau cerdded yng nghefn gwlad ac ar hyd yr arfordir; meddwlgarwch, minimaliaeth ac ioga; a dysgu sgiliau ac ieithoedd newydd (mae hi’n siarad Iseldireg yn rhugl; Ffrangeg a Sbaeneg yn wael, ac mae’n dysgu Cymraeg). Mae hi’n araf ddysgu mwynhau gwylio pêl-droed – nid yw ei phartner, Matt, yn rhoi llawer o ddewis iddi!
Mae hi’n brofiadol yn y canlynol:
Mae Julie yn gweithio ym myd addysg oedolion ers dros 30 mlynedd ac mae’n angerddol am helpu a chefnogi myfyrwyr i wireddu a chyflawni eu llawn botensial.
Mae Julie yn gweithio ym myd addysg oedolion ers dros 30 mlynedd ac mae’n angerddol am helpu a chefnogi myfyrwyr i wireddu a chyflawni eu llawn botensial. Ar hyn o bryd hi yw Dirprwy Bennaeth Ysgol Busnes De Cymru ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae gan Julie brofiad o’r canlynol:
Strategydd brand ac awdur yw Jo. Mae hi’n gweithio’n fyd-eang gyda sefydliadau o bob lliw a llun, gan eu helpu i sefyll allan drwy eu cyfathrebiadau.
Strategydd brand ac awdur yw Jo. Mae hi’n gweithio’n fyd-eang gyda sefydliadau o bob lliw a llun, gan eu helpu i sefyll allan drwy eu cyfathrebiadau. Ei phrif ffocws yw helpu busnesau i ddod â’u diwylliant a’u personoliaeth yn fyw drwy roi’r gorau i ddefnyddio ieithwedd ddiflas.
Mae ei chleientiaid yn cynnwys llywodraethau’r byd, elusennau a busnesau o bob maint. Yn ddiweddar mae hi wedi datblygu brandiau ar gyfer casino crypto cynta’r byd, cynhyrchydd bwyd fegan, cwmni deallusrwydd artiffisial, Amgueddfa Cymru a National Theatre Wales. Mae ei gwaith yn golygu ei bod yn cael dysgu am bob math o ddiwydiannau a sefydliadau, mae’n yrfa wych i berson busneslyd.
Mae hi hefyd yn ddarlithydd gwadd mewn brand yn Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Boston yn UDA.
Cafodd ei magu mewn cymuned fechan yn y gorllewin ond mae hi wedi byw a gweithio yn Ffrainc, yr Eidal, y Swistir, Awstralia ac UDA cyn dychwelyd adre i Gymru, felly mae hi’n siarad ychydig o ieithoedd heblaw Saesneg.
Y tu allan i’r gwaith, mae hi’n fam i ddau ifanc yn eu harddegau ac i filgi bach sy’n gallu rhedeg yn llawer cyflymach na hi. Yn ei hamser hamdden, mae’n ysgrifennu cyfres deledu wedi’i gosod mewn ysgol gyfun Gymraeg. Mae hi’n credu’n gryf mewn cymryd ei gwaith o ddifrif, ond nid ei hun o ddifrif.
Mae gan Jo brofiad o’r canlynol:
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR