Ymgynefino – eich diwrnodau cyntaf yng Ngholeg y Cymoedd (2025/2026)

P’un ai Medi 2025 yw eich blwyddyn gyntaf yng Ngholeg y Cymoedd ai peidio, dyma’r holl wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnoch i ddechrau yn y coleg.

Rydyn ni’n dechrau’r flwyddyn coleg gyda’n wythnos ymgynefino. Mae ymgynefino yn ymwneud â helpu dysgwyr newydd a dysgwyr sy’ndychwelyd i baratoi ar gyfer bywyd coleg.

Yn ystod ymgynefino byddwch chi’n:

  • Dod i wybod ble mae popeth wedi’i leoli ar y campws.
  • Cwrdd â staff y coleg.
  • Cwrdd â’ch cyd-ddysgwyr.
  • Dysgu popeth am fanteision bywyd coleg.

Beth sy’n digwydd yn ystod ymgynefino?

  • Disgwyliadau ohonoch chi fel dysgwr ynghyd â sut y byddwn ni fel coleg yn eich helpu chi. Ffair y Glas – digwyddiad enfawr ar y campws rydych chi’n astudio ynddo.
  • Cwrdd â’ch tiwtoriaid cwrs.
  • Cael cyfle i gwrdd â dysgwyr eraill yn eich dosbarth ac mewn mannau eraill o amgylch y coleg.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu tîm a datrys problemau.

Beth i’w ddod / ei wneud ymlaen llaw

  • Lawrlwytho Ap Microsoft Teams. chwiliwch ‘Microsoft Teams’ yn eich storfa apiau.
  • Pen a llyfr nodiadau.
  • Arian ar gyfer cinio a byrbrydau.
  • Lawrlwytho Ap Coleg y Cymoedd App. Chwiliwch am ‘Coleg y Cymoedd’ yn eich storfa Apiau.

Ble i fynd ar eich diwrnod cyntaf

Peidiwch â phoeni, nid ydym yn disgwyl i chi wybod yn union ble dylech fynd ar eich diwrnod cyntaf.

Ewch i brif dderbynfa’r campws rydych chi’n astudio ynddo. Bydd ein tîm cyfeillgar Gwasanaethau Dysgwyr a Champws wrth law i’ch cyfeirio i ble mae angen i chi fynd

New students

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Newyddion a Blogiau Newyddion ALN Ap Coleg y Cymoedd