
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad agored nesaf i weld popeth sydd gan Goleg y Cymoedd i’w gynnig.
Mewn digwyddiad agored Coleg y Cymoedd gallwch archwilio ein campysau, sgwrsio â thiwtoriaid, a chael cyngor ar bopeth o gyllid i wneud cais am gwrs.
Dyma’ch cyfle i ddysgu pam mai Coleg y Cymoedd yw’r dewis cywir i chi.
Digwyddiadau agored yw eich cyfle i siarad â staff academaidd a chymorth ac i ofyn cwestiynau.
Gall tiwtoriaid cwrs ddweud popeth wrthych am y pynciau sydd o ddiddordeb i chi ac ateb eich cwestiynau am gynnwys a gofynion mynediad cyrsiau.
Sgwrsio â’n Tîm Cymorth Dysgu i ddarganfod pa ddarpariaethau sydd gyda ni ar gyfer pob dysgwr a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Oes gennych chi gwestiynau am gyllid? Neu efallai bod angen i chi wybod eich opsiynau trafnidiaeth. Gofynnwch i wasanaethau’r campws am wybodaeth am bethau ymarferol.
Gallwch siarad â’n Tîm Lles gofalgar am unrhyw beth a byddan nhw’n ei drin yn gyfrinachol. Dewch i sgwrsio am unrhyw bryderon sydd gennych a chael cyngor.
Meddwl ymhellach ymlaen? Ewch i stondin Tîm y Dyfodol i ddarganfod yr holl ffyrdd y gallan nhw helpu gyda cheisiadau prifysgol a chyfleoedd gyrfa tra byddwch yn y coleg.
Os ydych chi’n gyflogwr neu’n hunangyflogedig, siaradwch â’r tîm Partneriaethau ynglŷn â sut y gall y coleg helpu gyda chyrsiau ar gyfer eich busnes.
Mae ein diwrnodau agored yn rhedeg ar draws pob un o’n pedwar campws. Pan fyddwch chi’n mynegi diddordeb, gallwch ddewis ymweld â’r campws agosaf atoch chi, neu’r un lle hoffech chi astudio oherwydd bod ganddo’r cyfleusterau sydd fwyaf o ddiddordeb i chi.
Dyma ein pum prif awgrym i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch pan fyddwch chi’n ymweld â ni ar gyfer digwyddiad agored.
Cyn eich digwyddiad agored, nodwch bopeth rydych chi eisiau ei wybod a’r cwestiynau sydd gennych i diwtoriaid neu staff eraill. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod â’ch rhestr gyda chi ar y diwrnod.
Bydd eich tocyn digwyddiad agored yn dweud wrthych pa gampws rydych chi wedi’i fwcio i ymweld ag ef, yn ogystal â’r dyddiad a’r slot amser. Gallwch gyrraedd ar unrhyw adeg yn ystod eich slot amser, ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi digon o amser i siarad â phawb sydd ei angen arnoch.
Os ydych chi’n cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, darganfyddwch sut y gallwch chi deithio i’r coleg. Os ydych chi’n gyrru, mae parcio i ymwelwyr, er y gall fod yn brysur.
Eich stop cyntaf yw ein llysgenhadon dysgwyr ger y fynedfa. Byddan nhw’n eich cyfarch ac yn dweud wrthych ble i fynd nesaf. Mae’n debyg y byddwch chi’n cael cymysgedd o gyflwyniadau grŵp a chyfarfodydd un-i-un.
Cofiwch y rhestr honno a wnaethoch chi? Gwiriwch ef tra byddwch chi’n dal yn y digwyddiad agored fel y gallwch wneud yn siŵr eich bod wedi siarad â phawb yr oedd ei angen arnoch cyn i chi adael.
Ar ôl i ni ddangos i chi fod Coleg y Cymoedd yn lle gwych i ddysgu, gall y tîm yn yr eich helpu i wneud cais.
Unrhyw gwestiynau? Darganfyddwch bopeth arall sydd angen i chi ei wybod am fynychu noson agored.
Defnyddiwch y botymau ar frig y dudalen hon i gofrestru gydag Eventbrite ar gyfer y digwyddiad agored rydych chi am ei fynychu.
Mae parcio i ymwelwyr ym mhob un o’n pedwar campws. Gall ein meysydd parcio fod yn brysur yn ystod ein digwyddiadau agored, felly cyrhaeddwch mewn da bryd os ydych chi’n gyrru, neu dewiswch drafnidiaeth gyhoeddus os gallwch.
Mae gan bob campws gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â Chaerdydd, Caerffili, Merthyr Tudful a threfi cyfagos eraill. Darganfyddwch ragor am deithio i’r coleg.
Gallwch. Gallwch ddod â rhieni neu ofalwyr, aelodau eraill o’r teulu a ffrindiau gyda chi. Dim ond chi fel darpar ddysgwr sydd angen tocyn – nid oes angen i chi fwcio tocyn ar gyfer pob un ohonyn nhw.
Ydy, mae pob un o’n hadeiladau yn hygyrch i ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn a’r rhai sydd â phroblemau symudedd.
Os byddai’n well gennych ymweld tra ei bod hi’n dawelach, byddem yn eich cynghori i fynychu am yr awr olaf rhwng 6.30pm-7.30pm. Mae ein digwyddiadau agored fel arfer yn llawer tawelach bryd hynny.
Gallwch ganslo’ch tocyn a’i ail-fwcio amser, diwrnod neu gampws gwahanol os oes angen. Cliciwch ar y ddolen yn eich e-bost cadarnhau i ail-fwcio.
Peidiwch â phoeni, cyn belled nad ydych mor hwyr fel eich bod chi’n colli’r digwyddiad agored cyfan, dylech allu ymweld â’n stondinau a siarad â’r tîm. Dewch o hyd i lysgennad dysgwr ger y fynedfa a all eich helpu i’ch cyfeirio’n gyflym at sesiynau.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





